Ailagor cyffordd 41 yr M4 yn llawn amser
- Cyhoeddwyd

Mae cyffordd 41 o'r M4 yn ardal Port Talbot i ailagor yn llawn amser.
Fel rhan o gynllun prawf, penderfynodd Llywodraeth Cymru i gau'r gyffordd am gyfnodau o'r dydd er mwyn gweld a fyddai hynny'n helpu llif traffig ar yr M4.
Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Cymru Edwina Hart ei bod wedi penderfynu ailagor y gyffordd, ond y byddai swyddogion yn parhau i ymchwilio i ganlyniadau'r arbrawf cyn penderfynu a ddylid cynnal cyfnod ymgynghorol ar gau'r gyffordd.
Dywedodd bod y cyfnod prawf wedi dangos fod yr arbrawf wedi gweld llif traffig yn gwella, ac yn ôl amcangyfrifon byddai hynny werth £180,000 y flwyddyn.
Yn Awst 2014, fe gafodd cyffordd 41 ar y ffordd orllewinol ei chau o 07:00-09:00 a 16:00-18:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae rhai wedi honni bod yr arbrawf wedi achosi i nifer y bobl sy'n ymweld â Chanolfan Siopa Aberafan ostwng.
Mewn llythyr at aelodau'r cynulliad, dywedodd Ms Hart: "Ar y sail hwn, mae'r treial wedi dangos y byddai hyn o fantais i'r M4 heb fod yn anfanteisiol i'r rhwydwaith ffyrdd lleol.
"Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad yw'r mesurau eilaidd gan gynnwys maes parcio, nifer ymwelwyr, hyd y ciwiau ac ansawdd yr aer yn dangos eu bod yn cael effaith sylweddol o ganlyniad i'r gau'r ffordd."
Dywedodd Peter Black, AC Gorllewin De Cymru, ei fod yn croesawu'r newyddion am ailagor y gyffordd ond roedd wedi synnu ar y sylw nad yw'r arbrawf wedi effeithio ar fusnesau lleol.
"Fe fydd unrhyw un oedd yn Port Talbot yn ystod amseroedd cau'r gyffordd yn gwybod nad yw hynny'n wir," meddai.
"Rwy'n amau a oedd y swyddogion wnaeth gynnal yr arolwg wedi ymweld â'r dref gywir. Rwyf am ysgrifennu at y gweinidog gan ofyn am fwy o fanylion am yr arolwg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd4 Awst 2014
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2014