Brithdir

  • Cyhoeddwyd
Brithdir Care home failings found provedFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae xxxx nyrs wedi eu xxxxxxx oherwydd i'w gofael arwain at farwolaeth cleifion mewn cartref gofal ym Margoes, Sir Caerffili.

Penderfynodd y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd yng nghaerdydd

Mewn penderfyniad blaenorol roedd y Cyngor wedi penderfynu fod tystiolaeth yn dangos fod yna gamymddygiad mewn swydd.

Ym mis Mai fe wnaeth panel disgyblu brofi bod yna fethianau mewn 86 o achosion yn erbyn chwe nyrs.

Roedd yr achsion yn ymwenud a naw o gleifion rhwng 2004 a 2006.

Ymgyrch Jasmine oedd yn gyfrifol am ymchwilio'r methianau, ymchwiliad gwerth £11.6 miliwn i gartrefi gofal dan ofal Puretruce Health Care a'u cyfarwyddwr Dr Prana Das.

Yn 2013 fe wnaeth Dr Das ddioddef anafiadau i'w ymengydd yn dilyn lladrad yn ei gartref.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i bweidio bwrw 'mlaen gyda'r cyhuddiadau yn ei erbyn ond y byddant yn aros ar ei ffeil.

Mae gwrandawiad disgyblu wedi penderfynu bod chwe nyrs wedi bod yn gyfrifol am gyfanswm 0 86 o fethiannau wrth wneud eu gwaith mewn cartref gofal yn sir Caerffili.

Clywodd y gwrandawiad fod yr achosion yn ymwneud a naw claf bregus oedd yn aros yng nghartref Brithdir rhwng 2004 a 2006.

Roedd y methiannau yn cynnwys methu ag atal briwiau ac oedi wrth geisio cyngor ynglŷn â phib bwydo oedd wedi ei heintio.

Clywodd y gwrandawiad fod meddyg teulu wedi dweud fod angen cyffuriau gwrthfiotig i atal briwiau ar glaf, ond ni chafodd y cyffuriau eu harchebu.

Fe fydd y Cyngor Nyrsio a Bydwragedd nawr yn penderfynu ar y camau disgyblu.

Roedd cyfanswm o 150 o honiadau wedi eu gwneud yn erbyn y chwech nrys, Rachel Tanta, Rachel Pritchard, Tembakazi Moyana, Beverley Mock, Daphne Richards a Susan Greening.

Ymhlith y methiannau eraill a gafodd eu rhestru oedd methu a chadw cofnodion digonol, a diffygion wrth lunio cynllun gofal i gleifion.

Fe fydd y gwrandawiad nawr yn ystyried a oedd y methiannau yn gyfystyr a chamymddwyn proffesiynol.

Disgrifiad o’r llun,
Cartref gofal Brithdir