Crabb: Galw ar uwchreolwyr bwrdd iechyd i ymddiswyddo
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi galw ar uwchreolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymddiswyddo wedi i adroddiad damniol am ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd gael ei gyhoeddi.
Dywedodd Stephen Crabb taw hwn oedd yr achos cam-drin neu esgeulustod gwaetha iddo ddod ar ei draws yng Nghymru.
Roedd angen, meddai, i rywun fod yn atebol ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod cleifion wedi cael eu cam-drin.
"Dyw atebolrwydd ddim yn golygu unrhywbeth oni bai bod canlyniadau difrifol os yw rhywbeth yn mynd o'i le.
"Fe fyddai aelod teulu sy'n perthyn i rywun gafodd ei gam-drin ar y ward yn rhwystredig ac yn ddig gan nad oes neb wedi ei erlyn na cholli swydd oherwydd yr hyn sy' wedi digwydd ar y ward ..."
Eisoes mae Llywodraeth Cymru dweud bod eu trefn arolygu'n "addas i'r diben".
Mae'r Arolygiaeth Gofal Iechyd wedi cydnabod eu bod wedi methu ag ymateb yn ddigon cynnar i gwynion am y ward ond yn dweud bod gwelliannau wedi eu cyflwyno.
Roedd honiadau bod cleifion wedi "eu trin fel anifeiliaid" ar y ward.
Casglodd adroddiad fod rhai arferion ar y ward "o bosib wedi ymyrryd â hawliau dynol y cleifion".
Marwolaethau
Mae'r bwrdd iechyd ystyried a oes cysylltiad rhwng yr honiadau o gamdriniaeth ar ward Tawel Fan a marwolaethau cyn eu hamser.
Dywedodd y bwrdd y byddai'r darganfyddiadau'n cael eu gwneud yn gyhoeddus wedi i swyddogion iechyd gyfarfod â theuluoedd y cleifion gafodd eu heffeithio.
Fe gafodd ward Tawel Fan ei chau ar ddiwedd 2013 a chafodd ymchwiliad ei lansio wedi "honiadau difrifol".
O ganlyniad i hynny fe gafodd wyth nyrs eu gwahardd, cafodd pedair nyrs eu symud i weithio ar ddyletswyddau eraill a bu'n rhaid i ddau feddyg weithio dan oruchwyliaeth.
Ond mae BBC Cymru yn deall bod yr heddlu wedi ymgynghoriad gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu na fydd unrhyw un yn cael ei erlyn.