Trafod cynnig i wahardd ysmygu mewn ceir â phlant
- Cyhoeddwyd

Gallai pobl gael eu gwahardd rhag ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol pe bai aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio o blaid y cynnig.
Fe fydd troseddwyr yn wynebu cosb benodedig o £50 o fis Hydref ymlaen, os fydd y mesur yn cael ei gymeradwyo gan aelodau ddydd Mawrth.
Mae ysmygu eisoes wedi'i wahardd mewn cerbydau gwaith a cherbydau cyhoeddus eraill o dan y ddeddf a basiwyd yn 2007.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fod mwg ail-law "yn fygythiad gwirioneddol a sylweddol i iechyd plant".
Dewis
"Ni all plant ddianc o'r cemegau gwenwynig a geir mewn mwg ail-law wrth deithio mewn ceir," meddai.
"Yn aml nid oes ganddynt ddewis os ydyn nhw am deithio mewn ceir myglyd ac efallai nad ydynt yn teimlo y gallant ofyn i oedolyn i roi'r gorau i smygu wrth deithio."
Ychwanegodd: "Fel yn achos y ddeddf sy'n bodoli eisoes, ni fydd llwyddiant y mesur yn cael ei seilio ar y nifer o gamau cosbi a gymerir, ond yn hytrach, wrth edrych sut mae ymddygiad, agweddau a safonau iechyd yn newid dros gyfnod o amser."
Ar hyn o bryd, mae pobl yn cael ysmygu mewn cerbydau preifat, ond byddai pleidlais o blaid y mesur yn gwahardd pobl rhag gwneud hynny os oes unrhyw un o dan 18 oed yn y cerbyd.
Er mai awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, yr heddlu fydd yn gyfrifol am weithredu yn erbyn troseddwyr mewn cerbydau cyhoeddus.