Gwyntoedd cryfion yn achosi problemau
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth coeden gwympo ar gar yn ardal Mount Pleasant, Abertawe
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn brysur wrth i wyntoedd cryfion a glaw trwm achosi problemau mewn salw ardal yng Nghymru.
Yn ardal Mount Pleasant, Abertawe fe wnaeth coeden gwympo ar gar.
Cafodd gwyntoedd o 78 milltir yr awr eu cofnodi yng Nghapel Curig, tua 20:00 ddydd Llun.
Bu llifogydd mewn rhannau o Rondda Cynon Taf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y byddai'r sefyllfa yn gwella dydd Mawrth, gyda thywydd mwy sych i ddod.
Roedd rhydd melyn 'byddwch yn barod' mewn grym ar gyfer rhannau o Gymru nos Lun.
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Tonnau'n taro yn erbyn arfordir de Cymru ym Mhorthcawl
Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Roedd yr olygfa ym Mhorthcawl yn debycach i'r hydref na diwrnod cyntaf yr haf
Ffynhonnell y llun, Steven Shaun Young
Llifogydd yn Rhondda Cynon Taf