'Gallai gadael Ewrop chwalu'r DU' medd Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at chwalu'r Deyrnas Unedig oni bai bod y pedair gwlad yn dangos mwyafrif o blaid hynny.
Wrth siarad yn sesiwn holi ac ateb y prif weinidog yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones nad oedd yn credu y byddai'r Alban yn aros yn y DU os fyddai'r DU yn gadael Ewrop.
Roedd yn ateb cwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood, a ofynnodd a oedd yn credu y dylai 'mwyafrif dwbl' gael ei ystyried yn y refferendwm ar Ewrop, lle byddai angen mwyafrif ymhob un o wledydd y DU.
Atebodd Carwyn Jones ei fod yn teimlo y byddai hynny yn "foesol gywir" er y byddai'n "anodd yn gyfreithiol".
'Problemau mawr'
Dywedodd: "Nid wy'n credu y gallai'r DU oroesi petai'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar sail pleidlais gan un neu ddwy o'r gwledydd sy'n rhan ohoni.
"Nid wy'n credu y bydd yr Alban yn aros yn rhan o'r DU os na fyddai'r DU yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n credu y byddai'n creu problemau mawr i Gymru hefyd.
"Dydw i ddim yn credu y byddai'n beth da i'r DU i adael yr Undeb Ewropeaidd os na fyddai mwyafrif yn Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Yn gyfreithiol mae hynny'n anodd ond yn foesol rwy'n credu bod hynny'n hollol gywir."
Fe ategodd hefyd ei alwad i Gymru gael hawliau dros faterion cyfreithiol er mwyn gwneud ei phenderfyniadau ei hun, gan ddweud:
"Os fydd y Ddeddf Hawliau Dynol yn cael ei ddiddymu fe fyddai hynny yn newid cyfansoddiad Cymru.
"Ni all hynny gael ei wneud heb i'r sefydliad yma o leia' gymeradwyo hynny."
Straeon perthnasol
- 31 Mai 2015
- 21 Mai 2015
- 12 Mai 2015