Gwella ysgolion: 'Sefydlu sylfeini ar ôl dechrau ansicr'

  • Cyhoeddwyd
dosbarth o ddisgyblionFfynhonnell y llun, PA

Mae adroddiadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Estyn wedi dod i'r casgliad, "ar ôl dechrau ansicr, fod y sylfeini ar gyfer pedwar gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol bellach yn cael eu sefydlu".

Fe gyhoeddodd llywodraeth Cymru yn 2011 ei bod am i bedwar consortiwm addysg rhanbarthol weithio i wella ysgolion.

Bwriad yr archwilydd cyffredinol ac Estyn - a gydweithiodd ar yr adroddiadau - oedd ystyried p'un a oedd dull Llywodraeth Cymru o weithredu consortia rhanbarthol, y broses o lywodraethu'r consortia a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn debygol o gyflawni'r gwelliant a fwriadwyd er mwyn cefnogi ysgolion a chyfrannu at y gwaith o wella cyrhaeddiad yng Nghymru.

Nododd yr adroddiadau fod ysgolion yn dechrau cael budd o'r gwasanaethau. Er hyn, mae ansicrwydd ynghylch rôl a diben consortia.

Hefyd, fe wnaeth yr adroddiadau nodi y bu diffyg cynllunio tymor canolig, prinder ffocws ar werth am arian a gwendidau wrth lywodraethu'r consortia.

'Her gadarnhaol'

Fe gafodd gwaith maes ar gyfer y ddau adroddiad ei gyflawni rhwng mis Awst 2014 a mis Ionawr 2015. Nododd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol fod llywodraeth Cymru a'r pedwar rhanbarth yn dangos ymrwymiad, a bod arwyddion o her gadarnhaol yn cael ei rhoi i ysgolion.

Yn ôl yr adroddiad, "mae gan lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion i gyd rolau allweddol i'w chwarae ac mae angen iddynt gydweithredu'n fwy effeithiol er mwyn adolygu cynnydd".

Yn ogystal, fe nododd yr adroddiad nad yw amcanion ariannol Llywodraeth Cymru yn glir a bod diffyg ffocws ar asesu gwerth am arian drwy gydol y system.

Noda adroddiad Estyn y bu gwelliant graddol yng nghyrhaeddiad disgyblion yn y pedwar rhanbarth yng Nghymru, "er na ellir priodoli hyn i ddatblygu consortia yn unig".

Ychwanegodd y sefydliad fod "consortia rhanbarthol yn llai effeithiol yn sicrhau bod ysgolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i wella. Nid oes gan unrhyw gonsortia ddull strategol cydlynol o leihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad".

'Braf gweld cynnydd'

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Er ei bod yn braf gweld bod cynnydd yn cael ei wneud wrth bennu her addysgol effeithiol yng Nghymru, mae gwaith i'w wneud o hyd cyn y gallwn ddeall yn llawn fuddiannau'r dull hwn o weithredu.

"Drwy gynnal yr astudiaeth ar y cam cynnar hwn, gobeithio y bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r consortia yn llwyddiannus a chefnogi canlyniadau plant a phobl ifanc yng Nghymru."

Meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru: "Mae'n galonogol gweld bod ysgolion yn dechrau cael budd o waith y consortia rhanbarthol er bod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i ddal i fyny â gwledydd eraill.

"Mae'r adroddiad wedi nodi sawl maes i'w wella. Mae'n braf dweud bod y consortia rhanbarthol wedi ymateb yn dda i adborth y tîm gwaith maes ac maent eisoes yn ymdrin â llawer o'r materion a godwyd yn yr adroddiad."

'Arwyddion cadarnhaol'

Wrth ymateb, fe ddywedodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yng Nghynulliad Cymru:

"Mae'n dda gweld rhai arwyddion cadarnhaol o gynnydd a bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia wedi ymrwymo i'r dull gweithredu rhanbarthol newydd.

"Ar y cam cynnar hwn, mae'n glir bod angen mwy o waith i sicrhau bod y consortia'n gwbl effeithiol ac i wella prosesau cydweithio'r holl bartneriaid sy'n cymryd rhan.

"Mae'n hanfodol bod ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi'n effeithiol er mwyn helpu i wella'r canlyniadau ar gyfer plant yng Nghymru, ac felly bydd yn hollbwysig mynd i'r afael yn llwyr â'r gwendidau a nodwyd yn y gwaith."