Gofyn am bardwn i Dic Penderyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyfreithiwr Bernard de Maid wedi anfon llythyr a deiseb at y Gweinidog Cyfiawnder Michael Gove yn gofyn am bardwn i Dic Penderyn gafodd ei grogi wedi Terfysg Merthyr.
Yn ei lythyr mae'r cyfreithiwr Bernard de Maid o Gaerdydd wedi dweud: "Pan fyddwch yn darllen y ddeiseb fe fyddwch yn nodi hyn - yn achos Richard Lewis (Dic Penderyn) ataliodd yr erlyniad unrhyw dystiolaeth fyddai wedi ei ryddhau rhag unrhyw fai.
"Cafodd unrhyw dystiolaeth fyddai wedi arwain at bardwn yn 1831 ei hatal gan y barnwr a'r Ysgrifennydd Cartref."
Dywedodd fod ei gleientiaid yn cynnwys teulu Mrs Beryl Astbury a Mrs Pamela Lewis, disgynyddion Richard Lewis.
Ar gam
Mae wedi anfon copïau o'r llythyr a'r ddeiseb at ASau ac ACau.
Cafodd Dic Penderyn ei grogi yn 1831 am ei fod yn euog ar gam o drywanu milwr o'r enw Donald Black.
Mynnodd ei fod yn ddieuog tan y diwedd.
Cafodd 11,000 o enwau eu casglu ar ddeiseb ym Merthyr Tudful ac arweinydd yr ymgyrch i achub ei fywyd oedd Joseph Tregelles Price, meistr dur a Chrynwr.
Serch hynny, gwrthododd y Gweinidog Cartref, yr Arglwydd Melbourne, newid y ddedfryd.