Yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Fôn yn 2017

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,
Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r Brifwyl ymweld â Môn ers 1999

Mae rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn deall fod trefnwyr yr Eisteddfod Genedlaethol yn gobeithio ymweld ag Ynys Môn ymhen dwy flynedd.

Mae tir wedi ei glustnodi yn ardal Bodedern ac fe fydd cyfarfod cyhoeddus cyn diwedd y mis gyda'r bwriad o roi gwahoddiad ffurfiol i'r Eisteddfod a sefydlu pwyllgor llywio.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, wrth y Post Cyntaf fod gwahoddiad wedi ei roi i'r Eisteddfod ymweld â'r ynys a bod trafodaethau wedi bod hefo perchnogion tir er mwyn dewis safle addas.

"Dwi'n falch o ddeud bod ni bellach wedi dod o hyd i dir ac wedi dod i gytundeb hefo'r perchnogion," meddai.

"Mi alla i gadarnhau mai yn ardal Bodedern y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, a'r cam nesaf fydd cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llangefni i drafod y mater ymhellach hefo pobol Môn.

"Y gobaith ydi y byddwn ni'n cael cefnogaeth ac y byddwn ni'n cadarnhau y bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yno yn 2017."

Llanbedrgoch yn '99

Y tro diwethaf i'r Eisteddfod fod ym Môn oedd yn 1999, yn ardal Llanbedrgoch, a chyn hynny yn Llangefni yn 1983.

Ers hynny mae trefn ariannu'r Brifwyl wedi newid a dydi'r baich ariannol bellach ddim yn disgyn ar y cyngor lleol.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhoi arian yn uniongyrchol i'r Brifwyl fel y gall barhau i deithio o amgylch Cymru.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Ieuan Williams, wrth y Post Cyntaf: "Yn amlwg, rydan ni'n croesawu'r newyddion ac yn frwdfrydig ofnadwy, ac rydan ni'n mynd i gynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau 25 Mehefin i weld os oes gan drigolion Môn ddiddordeb i ddod at ei gilydd.

"Yn amlwg, mae rhaid i ni sefydlu pwyllgor gwaith a chael dyhead i hel arian gan fod disgwyl i ni hel tua £300,000 i gynnal yr Eisteddfod.

"'Dan ni'n amcangyfrif bod cael Eisteddfod yn eich ardal yn werth rhyw £11m i'r economi felly rydan ni yn amlwg yn edrych ymlaen i gael yr hwb yna i'r economi."

Mi fydd y cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal am 18:30 nos Iau, 25 Mehefin, yn Ysgol Gyfun Llangefni.