Gwastraff: Dirwy i gyn arweinydd cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae cyn arweinydd Cyngor Abertawe wedi ei gael yn euog o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.
Roedd David Phillips, 67, wedi gwadu un honiad o waredu gwastraff mewn garej gyferbyn â'i gartref yn ardal Mount Pleasant o'r ddinas ym mis Mawrth y llynedd.
Ond fe'i cafwyd yn euog mewn achos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher.
Roedd yn honni mai ef oedd yn berchen ar y garej ac nid oedd yr hyn yr oedd wedi ei wneud wedi cael ei gwestiynu dros gyfnod o 20 mlynedd. Cafodd ddirwy o £200.
Roedd yn rhaid iddo hefyd dalu £250 mewn iawndal i berchennog cyfreithiol y garej.
Mae hefyd yn gorfod talu £2,000 mewn costau cyfreithiol ac £20 am waredu coed heb drwydded amgylcheddol.
Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Sophie Toms: "Rwyf yn derbyn eich cymeriad da a'ch rhan yn y gymuned, a'ch dyhead i'w wella."