Buddugoliaeth arall i Forgannwg

Andrew Salter Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Andrew Salter yn un o'r arwyr

Mae Morgannwg wedi ennill eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Northants yng Nghaerdydd.

Dyma'r tro cyntaf i Forgannwg ennill dwy gêm yn olynol ers 2011, ac roedd yn fuddugoliaeth hawdd o ddeg wiced.

Fe ddechreuodd Northants y diwrnod yn ceisio cyraedd cyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 371 wedi iddyn nhw ond sgorio 157 yn eu batiad cyntaf nhw.

Er gwaethaf batiad o dros gant gan Rob Newton, roedd bowlwyr Morgannwg ar eu gorau, a daeth ail fatiad Northants i ben ar 269 gan adael targed o 56 i'r tîm cartref.

Roedd Andrew Salter ymysg yr arwyr gyda'r bêl, gan gipio tair wiced i ychwanegu at y tair a gafodd yn y batiad cyntaf.

Llwyddodd Will Bragg a Jacques Rudolph i gyrraedd y nod heb golli wiced, gan gyrraedd 57 heb golled maen lai nag 21 pelawd.

Dyw Morgannwg yn dal heb golli yn y bencampwriaeth yn 2015, ac maen nhw bellach yn drydydd yn yr ail adran.