Seremoni Llyfr y Flwyddyn ar BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd

Fe fydd seremoni Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015 yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon nos Iau.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, ac fe gyflwynir gwobr ychwanegol o £6,000 i brif enillydd y wobr yn y ddwy iaith.
Yn y seremoni wobrwyo, fe gyflwynir hefyd Wobr Barn y Bobl a'r People's Choice Award i hoff lyfrau darllenwyr Cymru o'r rhestr fer.
Fe gafodd bron i 50 o lyfrau Cymraeg eu cyflwyno i'r beirniaid ac fe wnaeth Llenyddiaeth Cymru gyhoeddi'r rhestr fer ym mis Mai.
Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw'r awdur Annes Glynn, y bardd a'r darlithydd Hywel Griffiths a'r DJ, awdur a pherfformiwr Gareth Potter.
Gallwch ddilyn y seremoni ar lif byw arbennig BBC Cymru Fyw rhwng 19:00-21:00 nos Iau.
Ar y rhestr fer eleni, mae:
Rhestr Fer Barddoniaeth
Un Stribedyn Bach, Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch)
Storm ar Wyneb yr Haul, Llŷr Gwyn Lewis (Cyhoeddiadau Barddas)
Wilia, Meic Stephens (Cyhoeddiadau Barddas)
Rhestr Fer Ffuglen
Awst yn Anogia, Gareth F. Williams (Gwasg Gwynedd)
Saith Oes Efa, Lleucu Roberts (Y Lolfa)
Y Fro Dywyll, Jerry Hunter (Y Lolfa)
Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol
Rhyw Flodau Rhyfel, Llŷr Gwyn Lewis (Y Lolfa)
100 o Olygfeydd Hynod Cymru, Dyfed Elis-Gruffydd (Y Lolfa)
Mwy na Bardd, Kate Crockett (Cyhoeddiadau Barddas)
Rhestr Fer Saesneg
Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw'r newyddiadurwr a beirniad llenyddol Alex Clark, yr awdur Tessa Hadley a'r bardd Paul Henry.
Dyma'r teitlau sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer Saesneg:
Rhestr Fer Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Telling Tales, Patience Agbabi (Canongate Books)
So Many Moving Parts, Tiffany Atkinson (Bloodaxe Books)
My Family and Other Superheroes, Jonathan Edwards (Seren)
Rhestr Fer Ffuglen
The Redemption of Galen Pike, Carys Davies (Salt Publishing)
The Dig, Cynan Jones (Granta Books)
Burrard Inlet, Tyler Keevil (Parthian)
Rhestr Fer Ffeithiol Greadigol
Down to the Sea in Ships, Horatio Clare (Chatto & Windus)
Other People's Countries, Patrick McGuinness (Jonathan Cape)
American Interior, Gruff Rhys (Hamish Hamilton)