Capten wedi marw oherwydd 'cyflwr gwael' ei gwch

  • Cyhoeddwyd
Gareth Jones' scallop dredgeFfynhonnell y llun, MAIB
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd Gareth Jones ei ddarganfod yn farw ar ei gwch, Ronan Orla, ar 30 Mawrth y llynedd

Fe wnaeth capten farw ar ei ben ei hun ar ei gwch oddi ar arfordir Pen Llŷn ar ôl mynd yn sownd yn ei winsh ei hun, yn ôl adroddiad i achos y ddamwain.

Fe gafodd Gareth Jones, 36 oed o Morfa Nefyn, ei ddarganfod yn farw ar ei gwch ger Porthdinllaen ar 30 Mawrth y llynedd.

Yn ôl yr adroddiad, roedd ei winsh mewn "cyflwr peryglus o wael".

Dywedwyd hefyd nad oedd gan y cwch yr offer diogelwch i gyd-fynd â chyfraith y DU.

Nodwyd hefyd ei bod yn berygl i Mr Jones i weithio ar y cwch ar ei ben ei hun.

Yn ôl yr adroddiad gan Gangen Ymchwilio Damweiniau Morol: "Roedd cyflwr y cwch yn awgrymu mai diffyg arian, yn hytrach na diffyg ymwybyddiaeth o ddiogelwch, oedd wedi ei rwystro rhag cyflogi aelod arall o griw a chynnal ei gwch yn gywir."