Y Gweinidog Diwylliant yn gwrthod cwynion am nawdd S4C
- Cyhoeddwyd

Mae S4C yn cael ei ariannu yn "hael iawn", yn ôl Gweinidog Diwylliant llywodraeth y DU, sydd wedi gwrthod cwynion am ei nawdd.
Dywedodd AS Llafur, Susan Elan Jones, bod y penderfyniad i newid y ffordd y mae S4C yn cael ei ariannu wedi bod yn "drychineb llwyr".
Fe wnaeth hi ofyn am sicrwydd y byddai ei nawdd yn cael ei ddiogelu pan fo siarter y BBC yn cael ei adnewyddu.
Cytunodd Mr Vaizey, ond mynnodd bod S4C yn mynd "o nerth i nerth" gyda rhaglenni fel Y Gwyll.
Yn ystod cwestiynau diwylliant yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau, fe wnaeth AS Plaid Cymru Liz Saville-Roberts ofyn pryd fyddai yr Adran Diwylliant a Chwaraeon yn cyhoeddi'r arian fydd ar gael ar gyfer y sianel.
Dywedodd hi fod yr adran wedi torri nawdd S4C 93% ers 2010 i lai na £7m y flwyddyn.
Diogelu nawdd
Yn ymateb, dywedodd Mr Vaizey bod y mwyafrif o nawdd y sianel - £74m y flwyddyn - nawr yn dod o ffi trwydded y BBC, gan fynnu bod gan S4C, yn wahanol i nifer o gwmniau, "nawdd sicr ar gyfer y dyfodol" a'i fod wedi cael ei ddiogelu rhag toriadau.
Cwynodd Ms Jones bod llywodraeth y DU wedi methu a gwrando ar ASau Cymreig, ymgyrchwyr iaith a'r sianel ei hun pan yn cyhoeddi newidiadau i'r ffordd oedd S4C yn cael ei ariannu yn 2010.
Fe wnaeth Mr Vaizey roi sicrwydd y byddai yna fesurau i ddiogelu nawdd S4C pan fyddai siarter y BBC yn cael ei adnewyddu.
Fe wnaeth y gweinidog ganmol llwyddiant y sianel, gan nodi "llwyddiannau rhyngwladol" fel Y Gwyll.