Carwyn Jones: Datganoli treth incwm yw'r 'cam nesaf'
- Cyhoeddwyd

Mae Carwyn Jones wedi dweud mai rhoi rheolaeth ar dreth incwm i weinidogion Cymru yw'r cam nesaf "rhesymegol" os oes modd cytuno ar faint cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.
Mae gweinidogion Ceidwadol San Steffan am i lywodraeth Lafur Cymru gynnal refferendwm cyn cymeradwyo datganoli rheolaeth ar 10c ym mhob punt o dreth incwm i Fae Caerdydd.
Ond mae Prif Weinidog Cymru wedi gwrthod hynny, gan alw am fwy o wybodaeth am leiafswm arian blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Trysorlys, sy'n werth dros £15bn y flwyddyn.
Mewn araith yn Llundain fe wnaeth Mr Jones danlinellu, er ei wrthwynebiad hyd yma, ei fod o blaid cymryd rheolaeth ar bwerau treth incwm.
'Setliad cyllid teg'
Dywedodd Mr Jones: "Yn reddfol rydw i o blaid datganoli a gallaf weld y buddion mewn egwyddor o rannau gwahanol o'r Undeb yn penderfynu ar y balans rhwng lefelau treth, gan gynnwys y rheiny ar incwm personol, a lefelau adnoddau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.
"Ond rydw i wedi bod yn hollol glir, tan fod gyda ni setliad cyllid teg nid yw hi er lles Cymru i ddatganoli treth incwm."
Ychwanegodd: "Mae rhoi'r hyblygrwydd i osod trethi er mwyn ymateb i anghenion pobl Cymru a dewisiadau pobl Cymru o fewn model ariannu teg yn gam nesaf rhesymegol.
"Byddaf yn ystyried cynigion bob tro cyn belled â'u bod yn deg i Gymru."
'Mwy o eglurder'
Mae gwariant cyhoeddus yn uwch i bob pen yng Nghymru na Lloegr ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod isafswm i gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae disgwyl iddo fod rhwng 13% ac 16% yn uwch na lefelau gwariant cyhoeddus yn Lloegr.
Bydd yr union ffigwr yn cael ei bennu yn yr adolygiad gwariant nesaf y flwyddyn nesaf.
Yn ei araith fe wnaeth Mr Jones adlewyrchu pryderon am fodel o ddatganoli fyddai'n cymryd yn ganiataol bod pwerau wedi eu datganoli heblaw eu bod wedi eu nodi fel arall.
Dywedodd: "Mae angen mwy o eglurder ond ni all yr eglurder yna olygu cyfyngu ar bŵer y Cynulliad mewn unrhyw ffordd na chyfyngu ar y gallu i greu deddfwriaeth sydd yn ddealladwy, yn gyfannol ac sy'n cyrraedd anghenion y bobl wnaeth ei ethol."
Mae'r newid yn rhan o Fesur Cymru Llywodraeth y DU y mae disgwyl ei gyhoeddi yn yr hydref.
Dadansoddiad Tomos Livingstone, gohebydd gwleidyddol BBC Cymru:
Pwy ddylai osod lefel treth incwm yng Nghymru? A phwy ddylai benderfynu pwy sy'n penderfynu? Croeso i wleidyddiaeth gymhleth y cam nesaf yn hanes datganoli Cymru.
Ar hyn o bryd does dim pŵer gan Lywodraeth Cymru i osod treth incwm, er bod cyfres o fân drethi eraill i'w datganoli yn 2018.
Mae Llywodraeth Prydain yn awyddus i hyn newid - mae angen, meddai nhw, i'r Gweinidogion ym Mae Caerdydd gymryd mwy o gyfrifoldeb am gasglu'r arian maen nhw'n wario.
I'r perwyl yna mae bargen wedi'i chynnig: isafswm i'r grant flynyddol o'r Trysorlys (tua £15bn ar hyn o bryd), gyda'r disgwyliad wedyn y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal refferendwm ar ddatganoli treth incwm.
Hyd yn hyn mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dadlau nad oes cysylltiad rhwng y ddau beth - a bod angen ffigwr clir ar yr isafswm yna cyn cymryd y cam nesaf. Fis Rhagfyr fe wnaeth e ddweud, mewn egwyddor, ei fod e'n cytuno fod angen refferendwm hefyd cyn datganoli treth incwm.
Heddiw - gyda'r etholiad cyffredinol allan o'r ffordd - mae tôn Mr Jones yn wahanol. Mae'n gliriach o lawer ei fod e'n cefnogi derbyn pwerau treth incwm mewn egwyddor, rhywbeth sy' ddim at ddant pawb yn y blaid Lafur.
Mae e hefyd yn llawer llai brwdfrydig ynglŷn â refferendwm - go brin, meddai, y byddai refferendwm yn cael ei chynnal yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon i setlo'r un cwestiwn.
Sy'n codi cwestiwn pwysig - ydy'r posibilrwydd yn dechrau codi y gellid datganoli treth incwm heb refferendwm o gwbl?
Straeon perthnasol
- 9 Ebrill 2015
- 1 Ebrill 2015