Carchar am oes i bidoffeil o Ddoc Penfro

  • Cyhoeddwyd
Reginald Henry TurnerFfynhonnell y llun, WalesOnline
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd Reginald Henry Turner yn euog o 20 o gyhuddiadau o gam-drin

Mae pensiynwr wedi cael carchar am oes am gam-drin tair merch dros gyfnod o 15 mlynedd.

Clywodd y Llys y Goron Abertawe fod Reginald Henry Turner, 75 oed o Ddoc Penfro, wedi ymosod yn rhywiol ar y merched rhwng y 90au cynnar a 2008.

Ym mis Mai fe'i cafwyd yn euog o 20 o gyhuddiadau o gam-drin.

Roedd yn wynebu pedwar cyhuddiad o dreisio dwy ferch, cyhuddiadau o ymosodiadau anweddus, ymddwyn yn anweddus gyda phlentyn a chyffwrdd rhywiol.

Clywodd y rheithgor nad oedd y tair yn nabod ei gilydd a "doedd ganddyn nhw ddim unrhyw reswm o gwbl i'w gyhuddo ar gam."

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Patrick Griffiths, fod un o'r merched, sydd bellach yn ei harddegau, wedi mynd at yr heddlu yn 2013.

Yna fe gafodd Turner ei arestio.

'Troseddwr peryglus'

Pan welodd y ddwy arall adroddiadau yn y wasg am ei ymddangosiad cyntaf o flaen llys ynadon fe aethon nhw at yr heddlu.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Huw Davies QC wrth Turner nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd.

"Rwyf yn fodlon eich bod yn droseddwr peryglus. Mae'r dioddefwyr yn dal yn dioddef oherwydd eu profiadau ...Mae'n rhaid ystyried eich bod chi dal yn beryglus."

Fe fydd yn rhaid iddo dreulio bron naw mlynedd yn y carchar cyn y bydd yn cael gwneud cais am barôl.