Gosod sylfeini datganoli
- Cyhoeddwyd
Mae cyfraniadau nifer o wleidyddion Cymreig i'r broses ddatganoli wedi eu cydnabod dros y blynyddoedd, ond pwy ddylai gael y clod am osod y seiliau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru?
Mae Rob Phillips o Archif Wleidyddol Gymreig y Llyfrgell Genedlaethol yn dadlau mai'r Arglwydd Morris o Aberafan ddylai gael y diolch am hynny.
Fe fydd o'n ymhelaethu ar ei ddamcaniaeth mewn rhaglen ddogfen, Yr Arglwydd Morris o Aberafan, fydd yn cael ei darlledu ar S4C, Nos Sul 7 Mehefin. Mae o hefyd wedi amlinellu ei ddadleuon i Cymru Fyw:
"Proses, nid digwyddiad"
Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Aberafan yn 1959, pan oedd Hugh Gaitskell yn arweinydd y Blaid Lafur, ac fe wasanaethodd yn llywodraethau Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair.
Treuliodd yr Arglwydd Morris dros 5 mlynedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1974 ac 1979, ac fe oedd yn gyfrifol am gynlluniau datganoli Cymru gafodd eu gwrthod mewn refferendwm ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979.
Ron Davies oedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn 1997 pan bleidleisiodd Cymru i gael Cynulliad, ac felly, sut gellir dadlau mai'r Arglwydd Morris yw Tad Datganoli?
Corff etholedig
Wel, yng ngeiriau Ron Davies ei hun, mae datganoli yn broses, nid yn ddigwyddiad, ac yn fy marn i, dechreuodd y broses ddegawdau cyn y refferendwm ar Fedi 18 1997.
Un o'r camau pwysicaf yn y broses o sefydlu corff etholedig i Gymru oedd cael plaid oedd yn debygol o ddal grym i'w mabwysiadau fel polisi, a dyna beth wnaeth yr Arglwydd Morris yn ei gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol.
Yn y saithdegau, daeth datganoli i Gymru yn rhan o'r mainstreamgwleidyddol.
Roedd camau pwysig yn y broses cyn cyfnod Yr Arglwydd Morris yn y Swyddfa Gymreig gyda'r ymgyrchu dros Senedd i Gymru, twf Plaid Cymru, ac wrth gwrs datblygiadau pellach ers 1999 gyda phwerau deddfu a threthu yn cael eu rhoi i'r Cynulliad a sefydlu Llywodraeth Cymru fel corff ar wahân.
Ond Cynulliad yn ôl cynllun Yr Arglwydd Morris gafodd ei sefydlu yn 1999. Diolch iddo fe roedd cynllun yn y cwpwrdd yn barod i Ron Davies yn 1997.
Ond mae canolbwyntio dim ond ar sefydlu Cynulliad yn colli elfennau eraill o'r darlun mawr. Mae 'na fwy i ddatganoli na sefydlu corff etholedig.
Rhagor o bwerau
Ymhlith ei gyfraniad fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru roedd datganoli mwy o bwerau i'r Swyddfa Gymreig. Daeth llu o'r pwerau rheiny rhwng 1974 ac 1979, ac etifeddodd ei olynydd, Nicholas Edwards, adran llawer mwy pwerus a dylanwadol o'i herwydd.
Efallai ei gamp fwyaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru oedd sefydlu Awdurdod Datblygu Cymru (a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig).
Prin iawn yw'r sefydliadau sydd wedi gwneud mwy i godi proffil Cymru ar draws y byd, a phrinach fyth yw cyrff cyhoeddus mae pobl yn hiraethu amdanyn nhw bron i ddeng mlynedd wedi iddyn nhw gael eu diddymu!
Eironi mawr efallai yw bod y Cynulliad roedd Yr Arglwydd Morris wedi brwydro drosto yn gyfrifol am ddiddymu un o'i brif lwyddiannau.
Parhau i ymgyrchu
Mae'n amlwg bod Yr Arglwydd Morris yn meddwl bod gydag e gyfraniad o hyd i ddatganoli.
Ers gadael Tŷ'r Cyffredin, mae e wedi siarad am newidiad pellach i'r setliad, gan gynnwys galw am drefn lle mae hawl gan y Cynulliad i ddeddfu ar unrhyw bwnc heblaw am y rhai a restrwyd yn y deddf a lleihau nifer gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Yn Aelodau'r Cynulliad yn Narlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 2013 galwodd am gynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad.
Datganolwr brwd oedd yr Arglwydd Morris trwy gydol ei yrfa wleidyddol. Roedd methu â chyflwyno datganoli i Gymru yn 1979 yn siom fawr iddo, ond pan ddaeth yr awr, roedd y sylfaeni roedd e wedi eu gosod yn allweddol.
Yr Arglwydd Morris o Aberafan, S4C, Nos Sul, 7 Mehefin, 20:00