Cyngerdd cyntaf Syr Elton yn y gogledd
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl y bydd miloedd yn heidio i Stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn nos Sadwrn i wrando ar Syr Elton John yn canu yn ei gyngerdd cyntaf erioed yng ngogledd Cymru.
Mae disgwyl i'r cyngerdd, sydd yn rhan o'i daith Ewropeaidd, gynnwys rhai o ganeuon mwyaf eiconig yr artist, sy'n ymestyn dros gyfnod o bum degawd, gan gynnwys detholiad o ganeuon o'i albwm Goodbye Yellow Brick Road, oedd yn 40 oed eleni.
Dywedodd Syr Elton: "Rydw i a'r band yn gyffrous iawn am gael dod â'r sioe i Fae Colwyn. Er mai dyma fy sioe gyntaf yng ngogledd Cymru, rwyf bob amser yn cael fy nghyffroi gan y derbyniad rwyf yn ei gael yng Nghymru, a hynny byth ers fy nghyngerdd cyntaf yno ym mis Mehefin 1976.
"Rwy'n sicr y bydd y cyngerdd yma'r un mor gofiadwy. Edrychaf ymlaen at weld pawb yn y sioe yn Stadiwm Eirias, ac yr wyf yn sicr byddwn i gyd yn cael amser gwych. "
Anhwylder
Roedd na bryder yn gynharach yr wythnos hon wedi i'r canwr fethu ag ymddangos mewn cyngerdd yng Ngenefa oherwydd anhwylder.
Mewn datganiad ar ei wefan ddydd Mawrth, fe ddywedodd llefarydd ar ran y canwr fod y cyngerdd wedi ei ganslo nos Fercher o ganlyniad i haint ar ei wddw, a bod meddyg Syr Elton wedi ei orfodi i orffwyso ei lais ac i beidio â chanu na siarad.
Dywedodd y cwmni sy'n gyfrifol am lwyfannu Gŵyl Access All Eirias, Orchard Entertainment, eu bod nhw'n ymwybodol fod Elton John wedi canslo ei gyngerdd yng Ngenefa. Ond yn ôl llefarydd roedd cynlluniau ar gyfer y penwythnos yn mynd rhagddynt fel arfer.
Mae disgwyl i Syr Elton ddechrau ei berfformiad am 19:00 nos Sadwrn, gyda thorf o dros 14,000 yn gwrando'n eiddgar ar ei berfformiad.