Darganfod corff dyn 23 oed yn Nhalysarn yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ym mhentref Talysarn yng Ngwynedd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru fe gafodd swyddogion eu galw i ardal Bro Silyn o'r pentref am 08:07 fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod dyn yn sownd mewn twll draen.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff dyn lleol 23 oed oedd yn sownd yn y draen.
Nid yw'r heddlu yn trin y digwyddiad fel un amheus ac mae'r crwner wedi ei hysbysu.