Cyn-bennaeth iechyd: Triniaeth yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Mary Burrows

Mae cyn-bennaeth bwrdd iechyd yn y gogledd wedi symud i Loegr er mwyn derbyn cyffur trin canser, yn ôl adroddiad mewn papur newydd.

Dywed The Sunday Times fod Mary Burrows, oedd yn brif weithredwraig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wedi symud o Fae Colwyn i Lundain ddeufis yn ôl.

Mae hi'n aros gyda'i mab tra'n derbyn triniaeth canser y fron yn ysbyty'r Royal Marsden yn Surrey. Mae cronfa cyffuriau canser gwerth £200m y flwyddyn ar gael yn Lloegr ers 2011. Nid oes cronfa o'r fath ar gael yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Nid yw triniaethau sydd heb gael eu cymeradwyo gan y corff NICE ddim ar gael yn gyffredinol yng Nghymru".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod system mewn lle yng Nghymru sydd yn sicrhau bod pobl yn derbyn triniaethau ar gyfer pob math o salwch sydd wedi eu profi fe rhai sy'n gweithio, nid dim ond canser yn unig.

Triniaeth

Esboniodd Mrs Burrows wrth y papur newydd fod arbennigwyr yng Nghymru wedi ei chynghori i fynd i'r Royal Marsden ar gyfer y rhan nesaf o'i thriniaeth gan nad oedd y cyffur yr oedd hi ei angen ar gael yng Nghymru.

Dywedodd ei bod wedi gweithredu polisiau yn ystod ei chyfnod gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr lle'r oedd yn rhaid i gleifion chwilio am arian gan banel am gyffuriau nad oeddent ar gael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

"Mae'n rhaid i chi wahanu'ch cyfrifoldebau o weithredu'r polisi oddi wrth eich barn bersonol", meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Pan mae meddyg eisiau defnyddio triniaeth sydd heb gael ei gymeradwyo gan NICE, mae modd iddyn nhw wneud cais i'r bwrdd iechyd o dan y broses ariannu cleifion unigol yng Nghymru.

"Mae'r ceisiadau hyn yn cael eu hystyried gan banel o arbennigwyr. Gan fod pob claf yn wahanol, mae'n rhaid i bob achos gael ei fesur yn unigol".

Ychwanegodd Mrs Burrows, a adawodd y bwrdd iechyd ym mis Ionawr: "Nid yw hyn yn mynd i ddod i ben, mae'n mynd i dyfu'n fwy, ac mae pobl yn mynd i fynnu'r cyffuriau, ac fe fyddan nhw'n ddrud."

"Fe fydd pobl yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i oroesi. Mae'n ofidus iawn. Ni ddylie chi fod yn brwydro i dderbyn triniaeth, fe ddylie chi fod yn byw."

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i stori'r Sunday Times, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn trafod achosion unigol. Yng Nghymru mae ganddo ni system mewn lle sydd yn sicrhau bod pobl yn derbyn triniaethau ar gyfer pob math o salwch sydd wedi eu profi fe rhai sy'n gweithio - nid dim ond canser.

"Mae gan bobl sydd gyda chanser yng Nghymru gyswllt cynt gyda thriniaethau sydd wedi eu cymeradwyo gan NICE, o gymharu gyda phobl sydd yn byw yn Lloegr.

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr wedi cwtogi'r gronfa cyffuriau canser a'r nifer o feddyginiaethau sydd ar gael. Nid oes ganddo ni gynlluniau i gyflwyno cronfa cyffuriau canser yng Nghymru."