Lluniau: Gŵyl Nôl a Mla'n 2015

Ar benwythnos hynod o braf 5-6 Mehefin daeth tyrfa dda at ei gilydd unwaith eto ar gyfer Gŵyl Nôl a Mla'n 2015. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau mewn lluniau. Y ffotograffydd ydi Lleucu Meinir.

Image caption Candelas yn arwain yr hwyl nos wener yn Llangrannog
Image caption Arweinydd y dydd - Jac Russell yn cyfarth y dorf
Image caption Mae o yma o hyd! Dafydd Iwan yn diddanu cenhedlaeth newydd o ddilynwyr
Image caption Mari Elin-Mathias, lleisydd Raffdam
Image caption Cyfle cynta'r flwyddyn i wisgo'r sbectolau haul
Image caption Mae'r ferch yn yr het llongwr yn priodi'n fuan. A fydd Fortza yn canu yn y neithior?
Image caption Mae pawb yn cael hwyl yng Ngŵyl Nôl a Mla'n
Image caption Be well 'na sglodion ar y traeth?
Image caption "'Drych' ry'n ni yn oriel luniau Cymru Fyw!"
Image caption Yr haul yn machlud wrth i Sŵnami berfformio ar y llwyfan