Cau banciau: 'Angen i weinidog gyfarfod â phenaethiaid'

Natwest at Llangollen
Image caption Bydd Natwest yn trefnu bod banc symudol yn gwasanaethu'r cymunedau fydd yn colli canghennau

Mae AS De Clwyd Susan Elan Jones wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi pwysau ar benaethiaid Natwest sy'n bwriadu cau 11 cangen yng ngogledd Cymru.

Eisoes mae Ms Jones wedi gofyn i'r Gweinidog Busnes Sajid Javid gyfarfod â phenaethiaid y cwmni oherwydd eu cynlluniau i gau'r banciau ym mis Medi.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am sylw gan y Trysorlys.

Wythnos diwethaf dywedodd Natwest eu bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" am nifer o resymau, gan gynnwys y defnydd oedd yn cael ei wneud o'r banciau.

Y canghennau fydd yn cau yw:

  • Conwy: Abergele a Llandrillo-yn-Rhos;
  • Sir Ddinbych: Corwen, Dinbych, Llangollen a Llanelwy;
  • Sir y Fflint: Bwcle;
  • Gwynedd: Abersoch, Blaenau Ffestiniog a Thywyn;
  • Wrecsam: Yr Orsedd
Image copyright Eirian Evans/Geograph
Image caption Ni fydd banc o gwbl yng Nghorwen os yw cangen Natwest yn cau

Mae'r AS wedi gofyn i'r llywodraeth wneud datganiad am sut mae'n cynllunio i gefnogi banciau ar y stryd fawr.

Dywedodd: "Mae bancio ar y stryd fawr mewn argyfwng ar draws gogledd Cymru.

"Mae'n warth bod Natwest eisiau cau'r banc olaf sydd ar ôl yng Nghorwen a'u bod yn troi eu cefnau ar fusnesau ac unigolion yn y dref dwristiaid, Llangollen."

Dywedodd Natwest y byddai banc symudol i wasanaethu'r cymunedau fydd yn colli canghennau.

Hefyd, meddai, byddai ymdrech i symud staff i ganghennau arall fel y byddai llai'n colli eu swyddi.

Straeon perthnasol