Un o ddinosoriad hynaf y byd i'w weld yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae sgerbwd ffosil dinosor theropod gafodd ei ddarganfod ar draeth ym Mro Morgannwg yn cael ei arddangos i'r cyhoedd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Cafodd y ffosil ei ddarganfod gan ddau frawd o Lanilltud Fawr, Nick a Rob Hanigan, wrth hela ffosilau ar draeth Larnog wedi i stormydd gwanwyn 2014 daro arfordir Bro Morgannwg.
Hwn yw'r dinosor Jwrasig oedd yn bwyta cig cyntaf i'w ganfod yng Nghymru.
Dywedodd Nick Hanigan: "Dyma ddarganfyddiad mwyaf ein bywydau - roedd paratoi'r penglog a gweld dannedd theropod am y tro cyntaf mewn 200 miliwn o flynyddoedd yn brofiad anhygoel - allwch chi ddim curo'r math yna o beth!"
Mae'r dinosor newydd hwn yn gefnder Cymreig pell i Tyrannosaurus rex oedd yn byw ym mlynyddoedd cynharaf y Cyfnod Jwrasig, 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Esgyrn wedi gwasgaru
Mae'n bosib mai hwn yw'r dinosor Jwrasig hynaf yn y byd, ac fe fydd y ffosil i'w weld ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd rhwng 9 Mehefin a 6 Medi 2015.
Dywedodd Rob Hanigan: "Roedd rhoi'r dinosor i'r Amgueddfa er mwyn i'r cyhoedd a gwyddonwyr ei weld ac ymchwilio iddo yn fwriad o'r cychwyn."
Cafodd yr esgyrn eu canfod wedi'i gwasgaru dros bum darn o graig, ac er bod rhai wedi'u cadw yn eu safle cywir, roedd eraill wedi'u gwahanu a'u gwasgaru gan bysgod a draenogod môr sydd hefyd wedi'u ffosileiddio gyda'r esgyrn.
Bu Nick a Rob wrthi'n ofalus yn paratoi'r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru, ac fe lwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr dinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i ddadansoddi'r dannedd a'r esgyrn.
Llwyddodd y tîm i gadarnhau fod y dinosor hwn yn gigysydd - yn bwyta cig - o'r grŵp theropodau.
Mae'n debyg hefyd mai dinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o'r esgyrn heb eu ffurfio'n llawn eto. Parhau mae'r gwaith ymchwil, a phapur gwyddonol ar y gweill fydd yn datgelu enw'r rhywogaeth newydd.
Er bod dannedd ac esgyrn dinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Pen-y-Bont, y Barri a'r Bont-faen, y dinosor newydd hwn yw'r sgerbwd therapod cyntaf i gael ei ddarganfod.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
"Mae hwn yn ddarganfyddiad arbennig iawn, ac mae Nick a Rob Hanigan wedi bod yn hynod o hael wrth roi'r sbesimen rhyfeddol hwn i Amgueddfa Cymru, i'w gadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym wrth ein bodd fod y sbesimen hwn yn cael ei arddangos, gan roi golwg unigryw i ymwelwyr o sgerbwd ffosiledig y dinosor cigysol cyntaf yng Nghymru, ac un o'r dinosoriaid Jwrasig cyntaf yn y byd."
Dinosor theropod
Roedd y dinosor Cymreig yn fach, yn denau ac yn chwim. Mae'n debyg nad oedd yn llawer talach na 50cm, a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd.
Pan oedd yn crwydro'r Ddaear roedd de Cymru yn ardal arfordirol gyda hinsawdd gynnes. Roedd gan y dinosor lawer o ddannedd bychan a miniog fel cyllyll, sy'n awgrymu ei fod yn bwyta pryfed, mamaliaid bychan ac ymlusgiaid.
Mae'n debyg fod mân-blu yn gorchuddio'i gorff, fel nifer o ddinosoriaid therapod eraill, ar gyfer inswleiddio ac efallai ar gyfer arddangosiad.
Mae'n bosibl hefyd bod cwils ar ei gefn er mwyn amddiffyn ei hun,
Mae'r creigiau sy'n cynnwys y ffosilau yn dod o ddechrau'r cyfnod Jwrasig, rhyw 201.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Bryd hynny, roedd y dinosoriaid yn dechrau amrywio mwy. Mae'r sbesimen hwn yn un o'r unigolion Jwrasig cynharaf yn y DU.
Mae'n perthyn i'r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn hyn yn dde-orllewin Unol Daleithiau America.