Golau gwyrdd i gynllun glo brig yn Nyffryn Aman

  • Cyhoeddwyd
East Pit
Disgrifiad o’r llun,
Bwriad Celtic Energy yw cloddio am dair blynedd arall

Dywed cwmni cloddio glo brig Celtic Energy na fydd cais cynllunio ar gyfer safle East Pit yng Ngwaun Cae Gurwen cael ei alw mewn gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl y cwmni mae'r penderfyniad yn golygu diogelu hyd at 70 o weithwyr.

Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi rhoi caniatâd cynllunio i'r cynllun sy'n cynnwys codi gwesty 120 gwely, 78 o fythynnod gwyliau, llyn, maes gwersyllfa, canolfan ddeisio a siop.

Ond roedd rhai pobl leol wedi gwrthwynebu'r cynllun gan ddweud y byddai'n difetha'r amgylchedd.

Oherwydd hynny penderfynodd Llywodraeth Cymru ystyried a ddylai'r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan weinidogion yn hytrach na'r cyngor sir.

Ar y pryd fe wnaeth Celtic Energy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn rhybuddio: "Os na fydd gweinidogion yn gwneud penderfyniad o fewn ychydig wythnosau," meddai, "fe allai 70 o swyddi ddiflannu."

Mae'r cais gan y cwmni'n ymwneud â darn 585 hectar o dir ger Gwaun Cae Gurwen.

Dywedodd ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun eu bod yn poeni am effeithiau mwyngloddio ar gartrefi a bod angen adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol.

Roedd codi atyniad ar gyrion parc cenedlaethol yn amhriodol, medden nhw.