Tata: Streic ar 22 Mehefin

Rali Tata
Image caption Roedd cannoedd o weithwyr mewn rali yn gynharach yn y mis

Mae undebau gweithwyr dur cwmni Tata wedi cyhoeddi y bydd streic oherwydd anghydfod cynllun pensiwn ar 22 Mehefin.

Roedd y cwmni wedi dweud fod y cynllun pensiwn presennol, hen gynllun Cwmni Dur Prydain, yn wynebu "bwlch ariannol".

Fe allai'r newidiadau i'r cynllun olygu bod gweithwyr yn ymddeol yn 65 oed nid 60.

Dywedodd Roy Rickhus, ysgrifennydd cyffredinol undeb Community: "Does dim dewis ond gweithredu diwydiannol.

'Safiad'

"Dyw'r cwmni ddim wedi bod yn awyddus i gynnal trafodaethau ystyrlon er mwyn setlo'r anghydfod.

"Mae ein haelodau ni'n barod i wneud safiad."

Mae Tata wedi dweud eu bod yn wynebu bwlch o tua £2 biliwn ac nad ydi'r cynllun yn gynaliadwy.

Eisoes maen nhw wedi bod yn ymgynghori gyda 17,000 o weithwyr.