Prosiect £3m: Meddygon a nyrsys i wella gofal canser

  • Cyhoeddwyd
ChemotherapyFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,
Mae elusen Macmillan yn dweud y bydd y cynllun newydd yn gwella gwasanaethau i gleifion

Mae prosiect gwerth £3 miliwn wedi cael ei lansio i wella gwasanaethau canser o'r ymgynghoriad cyntaf gyda'r meddyg teulu hyd at y driniaeth.

Bydd meddygon a nyrsys yng Nghymru'n dod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaethau canser yn y cartref, y gymuned a'r ysbyty.

Nod y prosiect, sy'n cael ei hariannu gan Gymorth Canser Macmillan, yw creu canllaw ar gyfer Cymru gyfan ar ofal canser yn y gymuned.

Mae'r prosiect yn gobeithio cyflymu'r broses ddiagnosis a gwella'r gobaith o oroesi.

Fe ddywedodd Rheolwr Cyffredinol Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru, Susan Morris, fod gormod o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser ar ôl triniaethau brys yn yr ysbyty, a hynny wedi i'w hiechyd ddirywio.

Dywedodd fod y prosiect pum mlynedd o hyd yn "ffordd unigryw o gefnogi meddygon teulu i wneud diagnosis canser yn gynnar a chefnogi'n well eu cleifion sy'n byw gyda chanser".