Cymru i wahardd e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus

  • Cyhoeddwyd
e-sigarets

Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i wahardd pobl rhag defnyddio e-sigaréts mewn llefydd cyhoeddus fel tai bwyta, tafarndai ac yn y gweithle o dan ddeddfwriaeth sy'n cael ei gyflwyno ddydd Mawrth.

Mae Mesur Iechyd y Cyhoedd, sy'n debyg o ddod i rym yn 2017, wedi hollti barn grwpiau meddygol, gyda rhai ymgyrchwyr sydd yn erbyn ysmygu hyd yn oed yn ei wrthwynebu.

Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod modd cyfiawnhau'r newid gan ddweud y gallai e-sigaréts annog mwy o bobl ifanc i ysmygu yn y dyfodol, ac yn dweud y gallai defnyddio'r teclynnau "normaleiddio" ysmygu i'r genhedlaeth nesaf.

Mewn rhan arall o'r mesur bydd pobl sy'n cynnig gwasanaeth tatŵs hefyd yn gorfod cael trwydded newydd, ac mae cynllun hefyd i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd ddod o hyd i dŷ bach cyhoeddus a fferyllfeydd cymunedol.

Gwrthwynebiad

Ond gwahardd e-sigaréts yw'r rhan fwyaf dadleuol o'r mesur. Ymysg y cyrff sy'n gwrthwynebu mae Ymchwil Canser y DU, ASH Cymru a Sefydliad Ysgyfaint Prydain.

Eu dadl yw nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod e-sigaréts yn arwain pobl at ysmygu tybaco, na'u bod yn normaleiddio ysmygu yng ngolwg plant a phobl ifanc.

Maen nhw hefyd yn poeni y bydd eu gwahardd mewn llefydd cyhoeddus yn lleihau nifer y bobl sy'n eu defnyddio i geisio rhoi'r gorau i ysmygu.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Mark Drakeford bod "cyfrifoldeb" ganddo i wahardd e-sigaréts

Ond mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn sicr bod yna dystiolaeth yn dechrau dod i'r amlwg i gyfiawnhau gwaharddiad.

Dywedodd: "Mae tystiolaeth ar gael, dyna pam bod y BMA [Cymdeithas Feddygol Prydain], y prif swyddog meddygol y WHO [World Health Organisation] ac yn y blaen yn cefnogi beth y'n ni'n neud yn y bil.

"Ble'r y'n ni'n gallu creu amgylchiadau lle mae niwed ddim yn mynd i ddigwydd i bobl ifanc yn y dyfodol yn enwedig, mae'r cyfrifoldeb arna i fel gweinidog iechyd yn glir."

Ymateb

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar AC ei fod yn poeni bod rhai agweddau o'r ddeddfwriaeth yn ymyrryd ar hawliau unigolion.

"Mae e-sigaréts yn fan canol i lawer o bobl wrth geisio rhoi'r gorau i ysmygu a bydd newidiadau i gyfyngu ar hynny yn ei gwneud hi'n anoddach i ysmygwyr roi'r gorau," meddai.

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams AC, nad oes modd cyfiawnhau'r gwaharddiad.

"Mae'r dystiolaeth y tu ôl i'r penderfyniad yma yn denau iawn," meddai. "Nid yw gwahardd pethau er mwyn gwahardd yn sefyllfa y dylai unrhyw lywodraeth fynd iddi."

Dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon eu bod yn siomedig nad oedd camau cryf i leihau gordewdra a diffyg ymarfer corff "sydd yn cael effaith enfawr ar iechyd a salwch cronig."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,
Bydd rheolau llymach am wasanaeth tatŵs yn y mesur

Tatŵs

Er mwyn cael trwydded i gynnig gwasanaeth tatŵs, bydd rhaid i'r rhai sydd am wneud ddangos eu bod yn gymwys a bod eu hoffer a'u lle gwaith yn ddiogel.

Fe fydd gorfodaeth hefyd ar gynghorau lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn ddigonol, ac roedd Iwan Rhys Roberts o elusen Age Cymru yn falch o glywed hynny.

"Mae toiledau cyhoeddus yn holl bwysig," meddai, "er mwyn rhoi annibyniaeth i bobl hŷn.

"Bydd yn sicrhau eu bod yn gallu mynd allan a byw eu bywydau i'r eithaf heb orfod poeni."

Nod y llywodraeth wrth gyflwyno'r mesur yw helpu creu'r amodau lle gall pobl fyw bywydau iach. Ond fe fydd y dadlau ynglŷn â'r ffordd orau o wneud hynny - yn enwedig wrth geisio lleihau nifer y bobl sy'n ysmygu - yn siŵr o barhau.