'Dim pleidlais Ewrop' adeg etholiadau'r cynulliad

  • Cyhoeddwyd
EU flagFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Yn eu maniffesto etholiadol, roedd y Ceidwadwyr wedi addo cynnal refferendwm cyn 2017

Ni ddylai refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd gael ei gynnal yr un diwrnod ag etholiadau'r cynulliad yn 2016, yn ôl llywodraeth Cymru.

Mae 'na ddarogan fod llywodraeth San Steffan yn ystyried y dyddiad ym mis Mai.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai hynny'n cyfyngu ar allu pleidiau sydd o blaid Ewrop i gael "strategaeth refferendwm ddilys".

Ddydd Sul fe wnaeth yr Arglwydd Elis-Thomas fynd yn groes i safbwynt Plaid Cymru trwy ddweud y byddai cynnal y ddwy bleidlais yr un diwrnod yn arwain at nifer uwch o bleidleiswyr.

Mae arweinydd ei blaid Leanne Wood, ynghyd â Carwyn Jones, wedi dweud yn y gorffennol na ddylai'r refferendwm gael ei gynnal yr un pryd ag etholiadau cynulliad Cymru na Senedd yr Alban.

'Cam gwag'

Dywedodd llefarydd Llafur ddydd Llun: "Mae ein safbwynt ar hyn yn glir - dylid cynnal refferendwm mewn-allan o'r UE ar ddiwrnod gwahanol i etholiadau'r cynulliad.

"Bydd y prif weinidog [David Cameron] yn gwneud cam gwag os bydd yn pwyso am gynnal y pleidleisiau'r un diwrnod.

"Mae Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r cenedlaetholwyr yng Nghymru a'r Alban yn barod i chwarae rhan egnïol mewn unrhyw ymgyrch 'ie' ar gyfer UE ddiwygiedig.

"Ond bydd cynnal y bleidlais yr un diwrnod ag etholiadau Cymru a'r Alban yn cyfyngu ar ein gallu i gael strategaeth refferendwm ddilys.

"Rydyn ni'n gwybod fod y Ceidwadwyr yn rhanedig ar yr UE ac felly'n methu cynnal ymgyrch gredadwy."

Dim dyddiad eto

Roedd y Ceidwadwyr wedi addo yn eu maniffesto etholiadol i gynnal refferendwm ar aelodaeth o'r UE erbyn 2017, ond mae gweinidogion wedi gwrthod cadarnhau a fyddan nhw'n digwydd cyn hynny.

Mewn cyfweliad wedi'r etholiad cyffredinol ym mis Mai, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wrth BBC Cymru "nad oedd yn poeni gormod" am ddyddiad y refferendwm ond ei fod yn poeni am "wrthdaro posib" gydag etholiadau yng Nghymru a'r Alban.

"Dydw i ddim yn credu y byddai'n iach i bleidleiswyr fynd i'r etholiadau hynny gyda refferendwm ar yr UE wedi hawlio'r sylw yn ystod unrhyw ymgyrchu etholiadol."