Tu hwnt i San Steffan

Elfyn

Roedd o'n wyneb cyfarwydd ar feinciau gwyrddion Tŷ'r Cyffredin am 23 blynedd. Ond adeg Etholiad Cyffredinol 2015 fe benderfynodd Elfyn Llwyd ymddeol fel Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd.

Bu'n edrych yn ôl ar dros ddau ddegawd yn San Steffan gyda Cymru Fyw:

Wrth edrych yn ôl beth roddodd y boddhad mwya i chi?

Yn bersonol, sicrhau'r gyfraith ar stelcian tair blynedd a hanner yn ôl, ac wedyn trais yn y cartref mis Ionawr diwethaf. Mae rhain wedi bod yn uchafbwyntiau personol i mi gael y cyfreithiau yma drwodd.

Hefyd y safbwynt wnaethon ni gymryd ar Ryfel Irac ac Afghanistan, a hefyd bod ni wedi sefyll fyny i geisio uwchfarnu Tony Blair am gamarwain pawb ar y ffordd fewn i Irac.

Ar y pryd roedden ni'n reit unig, ac roedd pobol yn gweiddi ac yn reit ffiaidd o'n cwmpas ni. Erbyn rŵan wrth gwrs mae'r rhan fwyaf yn credu ei fod o wedi camarwain - doedd gen i ddim amheuaeth ar unrhyw bwynt, a dwi'n meddwl o ran egwyddor bod ni 'di gwneud y peth iawn.

Beth ydy'r newidiadau mwya' welsoch chi yn San Steffan ers i chi gael eich hethol gyntaf yn 1992?

Mae yna ddau brif beth yma. Mae pwyllgorau dethol wedi eu cryfhau, yn yr ystyr mae'r cadeiriau rŵan yn cael i'w hethol yna yn hytrach na'u rhoi yna gan y chwipiaid, ac mae'r adroddiadau yn dueddol o fod yn fwy awdurdodol ac yn gorfodi'r llywodraeth i roi ateb llawn a manwl iddyn nhw.

Roedd hynna'n bod wrth gwrs 20 mlynedd yn ôl, ond doedd y llywodraeth ddim yn eu cymryd nhw mor o ddifri ac mae'n gwneud rŵan - rhaid rhoi ymateb brys iddyn nhw rŵan. Ro'n i'n is-gadeirydd ar y Pwyllgor Cyfiawnder, a dwi'n gwybod fy mod i'n cael atebion gweddol sydyn gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder pan o'n i'n paratoi'n adroddiadau.

I ryw raddau mae meincwyr cefn, os nawn nhw gyd-weithio, yn gallu bod â grym. Be' dwi'n feddwl drwy hynny ydi, pan o'n i'n paratoi i ddod â'r mesur stelcian ma' ger bron, nes i gasglu cydbwyllgor o bob plaid ynghyd, pobl â diddordeb yn y pwnc.

Ac oherwydd hynny wnaethon ni baratoi adroddiadau ac yna dwyn perswâd ar y llywodraeth gyda chefnogaeth pob plaid. Roedd hyn yn enghraifft o feincwyr cefn yn gallu newid pethau a chyflwyno cyfreithau.

Image caption Elfyn Llwyd yn cyflwyno un o nifer o areithiau yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio cyflwyno cyfraith newydd ar stelcio

Wrth gwrs y peth anodd i wneud oedd perswadio'r gweision sifil bod angen newid - roedd y gweinidogion eu hunain yn gwrando, ond roedd rhai yn y gwasanaeth sifil yn ysgwyd eu pennau gan ddweud bod dim angen newid a bod y system yn gweithio'n iawn.

Yn aml iawn ma' gweision sifil yn hapus iawn i gael bywyd tawel a byw yn eu castell bach eu hunain - 'peidiwch â newid dim, peidiwch ag ysgwyd y dyfroedd'.

Mae pobol yn dweud bod Aelodau Seneddol ar y meinciau cefn yn gwbl ddi-rym, ond dydi hynny ddim yn wir, os ewch chi ati i baratoi eich achos yn fanwl - cael tystiolaeth sy'n bwysig, i ddangos yr angen am newid, mae posib cael deialog ac mae posib newid pethau.

Image caption Elfyn Llwyd yn ffarwelio â'r senedd gyda ei wraig Eleri, a'i blant Catrin a Rhodri

Yn y blynyddoedd diwetha' mae twf y cyfryngau cymdeithasol a rhagor o bwyslais ar bersonoliaethau wedi newid natur ymgyrchu. Pa effaith mae hynny wedi ei gael ar wleidyddiaeth?

Ffordd wahanol o ymgyrchu ydi o, ond i fod yn hollol onest dwi dipyn bach yn hen ffasiwn hefo pethau fela, ac wrach fod hi'n briodol mod i'n hongian fy 'sgidiau fyny ar hyn o bryd achos dwi ddim yn foi Twitter na Facebook na dim byd arall.

Ond y gwir plaen ydi dyma'r cyfryngau pwysig dyddiau yma, a dwi'n meddwl dylai pob gwleidydd sydd yn mynd i'r byd yna ystyried hynny a gafael ynddi mewn gwirionedd.

Allwch chi ddim 'ista yn ôl fel nes i dros y blynyddoedd a pheidio, oherwydd mae o yn cyrraedd cynulleidfa enfawr, ac mae'n bwysig bod y pleidiau a gwleidyddion fel unigolion yn defnyddio pob cyfle bosib i ledaenu neges, ac mae'r cyfryngau newydd ma'n holl bwysig.

Peth arall sy' wedi newid ydi 'da chi'n gweld wynebau gwleidyddion, ac maen nhw'n dweud rhyw frawddeg neu ddwy, a gwên, a dyna ni, y soundbite- dyna be' sy'n bwysig dyddiau 'ma.

Pur anaml y gwelwch chi rywbeth ar y teledu lle mae gwleidydd yn eistedd lawr i esbonio polisi i bawb gael deall a chael trafodaeth.

Mae o fwy i'w wneud efo personoliaethau a llai efo dadansoddi polisïau. Ac yn wir mae rhai yn dweud wrth gwrs bod etholiadau fama yn troi yn debyg i etholiad arlywyddol fel yn yr Unol Daleithiau.

Image caption Dros gyfnod gyrfa Elfyn mae'r Senedd yng Nghaerdydd wedi tyfu o ran statws a chyfrifoldebau

Yn ystod eich cyfnod yn San Steffan fe gafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sefydlu. Pa wahaniaeth mae hynny wedi ei wneud i'r berthynas rhwng San Steffan a Chymru?

Does 'na ddim digon o barch yn cael ei roi at y sefydliad yng Nghaerdydd, ac 'da chi'n gweld yn aml iawn pobl yn anwybyddu ambell i beth am fod nhw'n meddwl 'rhywbeth i Gaerdydd ydi hwnna'.

Er enghraifft, pan oedd yr Adran Gyfiawnder yn trio gwneud newidiadau yng Nghymorth Cyfreithiol, cafodd dogfennau eu hanfon allan am ymgynghoriad - nes i ni bwyntio allan y ffaith bod rhai Cymraeg heb gael eu paratoi doedd neb 'di meddwl gwneud hynny, ac roedden nhw'n uniaith Saesneg yn dod i Gymru.

Wrth gwrs mis wedyn daeth y fersiwn Cymraeg allan, a dwi'n ffeindio yn aml fod adrannau megis y Swyddfa Gartref a'r Swyddfa Gyfiawnder rywsut wedi codi rhwyfau ar ddarparu pethau yn y Gymraeg.

Tra maen nhw'n gyfrifol am blismona a chyfiawnder mae yna ddyletswydd arnyn nhw i ddarparu pethau yn ddwyieithog ar gyfer Cymru.

Os nad ydyn nhw yn fodlon gwneud dyle ni ddatganoli'r grymoedd yma i ni gael gwneud o'n iawn ein hunain.

Felly mae yna arferiad o roi gydag un llaw a chymryd gyda'r llall.

O ran grymoedd, beth fase chi'n hoffi ei weld yn cael ei ddatganoli nesa?

Dwi'n meddwl ei bod hi'n hen bryd datganoli'r heddlu, ac mi roedd 'na fwyafrif llethol o blaid gwneud, gan gynnwys Comisiwn Silk wrth gwrs.

Erbyn hyn mae gennym ni awdurdod prawf, ymddiriedolaeth drwy Gymru gyfan, ac wrth gwrs cylchdaith drwy Gymru gyfan, yn wahanol i beth oedd hi ers talwm fel 'Cymru a Chaer'.

Os 'da chi'n gweithio yn y meysydd cyfraith fel rydw i, sef trosedd a theulu, os nad ydych chi'n ymwybodol o'r newidiadau Cymreig, allwch chi ddim practisho, mae 'di dod i hyn yn barod.

Felly mae'n hen bryd yn fy marn i i ni gael cyfundrefn cyfreithiol ar gyfer Cymru a'r gwaith sy'n dod allan o'r Cynulliad er mwyn sicrhau bod yna ddim dryswch a.y.y.b.

Mae'n chwith i mi feddwl, hyd y gwn i beth bynnag, mai ni yng Nghymru yw'r unig ddeddfwrfa heb gyfundrefn gyfreithiol i'w gwasanaethu hi - mae hwnna'n sefyllfa ryfedd iawn, ac alla fo ddim parhau. Y cwestiwn ydi 'pryd bydde ni'n cael system i Gymru?' nid 'os cawn ni system i Gymru?'

Beth ydych chi am ei golli fwyaf am San Steffan?

Cyfeillgarwch i ddweud y gwir. Mae gen i gyfeillion ym mhob plaid bron, ac mae 'na staff dwi 'di cydweithio gyda, ac aml i ffrind yn yr ardal o Lundain ble ro'n i'n byw.

Dwi'n teimlo braidd yn chwithig ar adegau yn meddwl am y peth. O'r pleidiau eraill roeddwn i'n gyfeillgar gyda Paul Murphy a Don Touhig oedd yn aelodau Llafur Cymreig cyn iddyn nhw gael eu dyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi.

Mae 'na bobl o fewn Blaid Genedlaethol Yr Alban, ac o'n i'n gweithio'n dda iawn gyda Caroline Lucas o'r Blaid Werdd a llawer o aelodau o adain chwith y blaid Lafur, fel Jeremy Corbyn a Don McDonell - bydda i'n colli eu cyfeillgarwch nhw yn sicr.

Ond ochr arall y geiniog ydi, ar fore dydd Llun fel arfer byswn i ar y trên o Crewe i Lundain, ond rŵan mi fydda' i yn y tŷ yn Llanuwchllyn yn mwynhau golygfa braf, ond hefyd gardd sy' angen ei chwynnu dwi'm yn amau. Mae hi'n braf bod adref yn sicr.

Pa gyngor wnaethoch chi roi i Liz Saville Roberts, eich olynydd fel Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd?

Y cyngor mwyaf dwi 'di roi i Liz ydi iddi hi fod yn barod i gydweithio gyda phawb ar draws y ffiniau pleidiol. Fel yna mae llwyddo, ac fel yna dwi 'di gallu gwneud yr ychydig dwi wedi ei wneud, a chydweithio â phobl o'r un anian.

Yr ail beth, rhaid canolbwyntio ar un neu ddau o feysydd i arbenigo ynddyn nhw. Fedr pobl ddim bod yn arbenigwr ar bopeth, mae hynny'n hollol amhosib wrth reswm. Mae'n bwysig canolbwyntio ar feysydd penodol a darllen o gwmpas y pynciau.

Mae'n bwysig hefyd peidio cymryd y chwipiaid o ddifri a phledleisio yn ôl cydwybod a'r hyn fyddai'r etholwyr a dy wlad yn ei ddisgwyl. Wfft i'r chwipiaid!

Er eich bod chi yn mwynhau bod adref yn Llanuwchllyn, fyddech chi'n ystyried ymgeisio am swydd arall mewn bywyd cyhoeddus?

O ran swyddi i'r dyfodol, mae 'na hen wireb yng ngwleidyddiaeth does; peidiwch byth a dweud 'byth'...

Image caption Mae Elfyn Llwyd yn cael cyfle i dreulio mwy o amser gyda Catrin, ei ferch, a'i wyres Leusa. Ond gaiff o ei demtio i ymgeisio am swydd arall mewn bywyd cyhoeddus?