Trawsfynydd, Ypres a Grantham

  • Cyhoeddwyd
Grantham

Dydi gweld plant yn cyflwyno sioe i gofio bywyd Hedd Wyn ddim yn anghyffredin yma yng Nghymru, ond pam bod hynny yn digwydd yn nwyrain Lloegr?

Mae hanes 'Bardd y Gadair Ddu' yn rhan o gynhyrchiad 'World at War' gan ddisgyblion Grantham Preparatory School yn Sir Lincoln ar 18 a 19 Mehefin.

Mae llawer o'r diolch am hynny i ddwy Gymraes ar staff yr ysgol - Shirley Kennedy a Sian Banfield. Buodd Shirley yn dweud rhagor wrth Cymru Fyw am gefndir y cynhyrchiad:

Prosiect newydd

Fe ddatblygodd y syniad ar ôl i Sian Banfield fynd ar gwrs i'r Royal Opera House y llynedd. Yn dilyn y cwrs penderfynodd greu prosiect yn olrhain yr hanes a'i gyflwyno i flwyddyn 5 a 6.

Roedd y plant ar fin astudio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, a manteisiodd ar y cyfle i chwilio am storïau oedd yn berthnasol ac yn cynnwys arwr.

Y sialens oedd dod o hyd i stori a fyddai'n addas ar gyfer opera. Wedi pendroni am dipyn fe ddaeth y syniad iddi o'i phrofiad cynnar o astudio hanes Hedd Wyn pan oedd hi'n ddisgybl yn yr ysgol yn Hwlffordd.

Plant wedi eu swyno

Mae stori Hedd Wyn yn un sy'n cyffwrdd a'r emosiwn, ac 'roedd y plant yn yr un modd wedi eu swyno gyda'r bardd heddychlon a'i stori drasig.

Maen nhw wedi cymryd y stori o ddifri a chreu golygfeydd sy'n llwyr adlewyrchu y drasiedi gan gynnwys golygfeydd realistig e.e. marwolaeth Hedd Wyn a hefyd tristwch a hiraeth y teulu pan gafodd y gadair ei gorchuddio gyda'r lliain du, yn yr Eisteddfod.

Fe wnaethon nhw greu golygfeydd pwrpasol gan gynnwys Hedd Wyn, a'i deulu yn ogystal ag adlewyrchu ei fywyd yn gyda'i ffrindiau yn y ffosydd. Yna fe ddatblygon nhw gerddi ac ymadroddion a'u defnyddio wedyn ar gyfer libretto, llinellau'r opera.

Disgrifiad o’r llun,
Shirley Kennedy, athrawes yn Grantham Preparatory School

Cyfansoddi

Yn dilyn hyn fe aethon nhw ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth trwy ddefnyddio recorder a nodiant gerddorol syml. Yna daeth pump aeldo o gerddorfa'r ysgol i weithio gyda Sian ynghyd a dau aelod o'r chweched dosbarth lleol.

Trwy waith caled a thrylwyr fe wnaethon nhw droi'r gerddoriaeth yn sgôr lawn.

Mae'r plant bellach wedi cael y cyfle i ddysgu nid yn unig am y Rhyfel Byd Cyntaf ond hefyd am arwr a oedd yn Gymro.

Maen nhw wedi dysgu am y traddodiad yng Nghymru o gynnal eisteddfodau ac yn bennaf yr Eisteddfod Genedlaethol sy'n rhan anatod o ddiwylliant y Cymru.

Awyrgylch Gymreig

Gan mai opera yw'r ffurf gafodd ei dewis i gyflwyno'r stori mae'r awyrgylch Cymreig yn cael ei chynnal yn naturiol trwy ddefnyddio gwisgoedd e.e. gwisg yr Archdderwydd a chadair yr eisteddfod. Mae'r caneuon hefyd yn adlewyrchu rhannau o'i fywyd.

Mae'r plant wedi elwa trwy gael y profiad nid yn unig o berfformio ond hefyd dysgu sut i drefnu'r goleuadau, gwneud ymchwil i fewn i'r gwisgoedd, a dylunio setiau. Mae'r cyfan wedi bod yn daith bositif ac yn dangos beth sy'n bosib ei gyflawni trwy weithio fel tîm.

Edrych ymlaen i'r perfformiad

Heb os ac oni bai mae cyfraniad y rhieni wedi bod yn bwysig iawn ac mae eu cefnogaeth yn cael ei groesawu gan yr ysgol, gan eu bod wedi sicrhau fod y plant wedi'i gwisgo yn y dillad perthnasol i'r cyfnod sy'n cael ei bortreadu yn yr opera.

Ynghŷd â hyn mae grwp o rieni wedi mynd ati i greu cefndir i rhai o'r golygfeydd, ac yn naturiol yn edrych ymlaen i weld y perfformiad.

Mae'r adran iau yn fwrlwm o weithgaredd ar hyn o bryd a'r plant yn llawn brwdfrydedd.

Gallwch glywed Shirley yn trafod y cynhyrchiad gan Grantham Preparatory School mewn fwy o fanylder ar Raglen Bore Cothi, dydd Mercher, 17 Mehefin.

Hefyd gan y BBC