Lagŵn yn cael sêl bendith y llywodraeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd, wedi rhoi sêl bendith i gais cynllunio cynllun lagŵn Bae Abertawe.
Bydd y cynllun gwerth £1 biliwn yn creu ynni drwy ddefnyddio tyrbinau tanddwr i harneisio grym y llanw.
Dywedodd gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne:
"Rydym angen mwy o ffynonellau ynni adnewyddol a glan fydd yn lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o dramor.
"Gallai prosiectau carbon isel fel lagŵn llanw Bae Abertawe ddod â buddsoddiad, cefnogi swyddi lleol a chyfrannu at economi Cymru ac ardal Abertawe."
Er bod y cynllun wedi cael caniatâd cynllunio, mae'r cynllun yn destun trafodaethau CfD (Contract For Difference) i benderfynu os fydd yn cynnig gwerth am arian i gwsmeriaid a faint fydd y Llywodraeth yn barod i warantu'r pris sy'n cael ei dalu am yr ynni.
Ymateb
Mae'r penderfynid wedi cael ei groesawu gan Gyngor Abertawe. Dywedodd Rob Stewart, arweinydd y Cyngor, y bod y newyddion yn galonogol i holl ranbarth Bae Abertawe.
"Mae un asesiad gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn dweud y gallai'r cynllun fod yn werth £500 miliwn i economi Cymru," meddai.
"Nid yn unig fydd y gwaith adeiladu yn hwb i'r economi leol, ond fe fydd o hefyd yn hwb i fusnesau lleol gan gynnwys y diwydiant twristiaeth sy'n werth £360 i'r ardal leol. "
Mae'r corff amgylcheddol Cyfeillion y Ddaear hefyd wedi croesawu'r penderfyniad.
"Fe allai ynni llanw chwyldroi'r modd rydym yn cynhyrchu ynni yng Nghymru," meddai llefarydd.
"Yn hytrach na dibynnu ar losgi tanwyddau ffosil, fe allai fod o gymorth wrth sicrhau amgylchedd mwy glan a mwy diogel."
"Mae yna rai ystyriaethau amgylcheddol yn parhau - fel y math o ddeunydd fydd yn cael ei ddefnyddio yn y gwaith adeiladau - ond pe bai yna atebion i hynny yna fe allai ynni llanw fod yn gam pwysig tuag at sicrhau targed o 100% o ynni adnewyddol."
Mae'r rhai sydd y tu ôl i'r fenter eisoes wedi dweud mai cwmni o China sy'n cael eu ffafrio ar gyfer y cytundeb gwerth £300m i godi'r wal chwe milltir o hyd fydd yn ganolog i'r cynllun.
Bydd y China Harbour Engineering Company yn agor swyddfa ym Mhrydain ac yn addo gwario gwerth hanner y cytundeb yn cyflogi gweithwyr a deunyddiau Prydeinig, yn ôl y cwmni.
Fe allai 1,850 o swyddi adeiladu gael eu creu gan y cynllun lagŵn gwerth £1bn, ac fe ddylai agor o 2018.
Mae enw'r cwmni fyddai'n adeiladu rhan sylweddol o'r lagŵn hefyd wedi ei gyhoeddi.
Cwmni o Gaint, Laing O'Rourke, sydd wedi ei ddewis ar gyfer adeiladu tyrbin 1,345 troedfedd o uchder. Y nhw hefyd fyddai'n codi'r llifddor i reoli llif y dŵr. Byddai cytundeb Laing O'Rourke werth £200 miliwn.
Byddai'r cynllun yn golygu bod 500 o weithwyr yn cael eu cyflogi pan fo'r gwaith ar ei anterth - ac mae disgwyl i'r prosiect cyfan greu 1,850 o swyddi yn y maes adeiladu.
Hon fyddai'r orsaf ynni gyntaf i gael ei phweru gan lif y dŵr o lagŵn.
Mae disgwyl i'r safle gynhyrchu ynni am 120 o flynyddoedd.
Pan fydd y safle yn weithredol mae disgwyl iddo greu 500GWH o ynni bob blwyddyn - digon i gyflenwi mwy na 155,000 o gartrefi.
Mae'r cwmni ariannol y Prudential wedi dweud y byddan nhw'n un o'r prif fuddsoddwyr yn y cynllun, ac y byddan nhw'n cyfrannu £100m tuag at y costau.
Straeon perthnasol
- 3 Mehefin 2015
- 26 Mai 2015
- 20 Hydref 2014