Perchennog clwb rygbi 'ddim yn gymwys'
- Cyhoeddwyd

Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi penderfynu nad yw perchennog clwb rygbi Castell-nedd, Geraint Hawkes, yn gymwys i fod yn gyfarwyddwr cwmni.
Ddydd Mawrth cyhoeddwyd dyfarniad y barnwr yn dilyn gwrandawiad tri diwrnod ym mis Mawrth eleni lle cafodd honiadau eu gwneud yn erbyn Mr Hawkes a'i fam Janis Hawkes.
Yn y dyfarniad llawn, mae'r barnwr yn dweud nad oedd yn credu fod tystiolaeth Mr Hawkes ar sawl mater wedi bod yn gredadwy.
Bydd gwrandawiad pellach ym mis Gorffennaf i bennu hyd gwaharddiad y ddau rhag bod yn gyfarwyddwyr.
Ymhlith y cyhuddiadau yn erbyn Mr Hawkes a'i fam mae:
Eu bod wedi cyflwyno cofnodion ariannol camarweiniol am ei gwmni FG Hawkes (Western) Limited rhwng 1 Mai 2008 a 31 Gorffennaf 2009;
Eu bod wedi cyflwyno cofnodion ffug i Wasanaeth Refeniw Ei Mawrhydi parthed Treth ar Werth rhwng Ebrill 2010 ac Ebrill 2011gan ddatgan £1.5 miliwn o ddiffyg;
Eu bod wedi achosi i'r cwmni dorri sawl cytundeb mewn perthynas â gwasanaeth gan Barclays Sales Finance gan arwain at BSF yn colli oddeutu £900,000.
Fe ddaw'r cyfan wrth i gefnogwyr clwb rygbi Castell-nedd bryderu am ddyfodol eu clwb. Maen nhw wedi gofyn i Undeb Rygbi ymyrryd wrth geisio datrys pwy yw gwir berchennog y clwb.
Yn y gorffennol mae Geraint Hawkes wedi dweud nad ydy o bellach yn ymwneud gyda'r clwb. Ond mae BBC Cymru yn deall bod trefniant i drosglwyddo'r berchnogaeth i Mike Cuddy, dyn busnes lleol, ddim wedi ei arwyddo eto.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2015