Gwrthdroi gwaharddiad ar drowsusau byrion mewn tacsis
- Cyhoeddwyd

Mae penderfyniad i wahardd gyrwyr tacsis rhag gwisgo trowsusau byrion yn Sir Ddinbych wedi cael ei wrthdroi gan y cyngor.
Daeth y gwaharddiad i rym ar 1 Mai, mewn ymgais i newid delwedd 400 o yrwyr tacsi trwyddedig y sir.
Ond wedi i 500 o bobl arwyddo deiseb mewn protest, mae pwyllgor trwyddedu'r cyngor wedi cytuno i edrych ar y mater eto.
Fe wnaeth y cyngor benderfynu y byddai gyrwyr tacsis yn cael gwisgo trowsus byr os ydyn nhw yn "briodol".
Disgrifiodd un gyrrwr tacsi o'r Rhyl, Colin Howell, y gwaharddiad fel "jôc" a "ffars".
Dywedodd: "Mae'n llawer rhy boeth mewn tacsis. Mae gwisgo siorts yn oeri ni i lawr ac yn atal blinder.
"Dylai'r cyngor roi'r gorau i gynnal y cyfarfodydd gwirion am yrwyr tacsi yn gwisgo siorts, a gweithio at gael Rhyl yn ôl i fod y dref yr oedd yn arfer bod."
Dywedodd rheolwr gwarchod y cyhoedd yr awdurdod, Emlyn Jones, fod "chwe gyrrwr wedi mynychu gweithdy ymgynghori cyn i'r polisi gael ei gyflwyno a bod pob un ohonyn nhw wedi bod o blaid y gwaharddiad".