Andre Ayew yn arwyddo i Abertawe am ddim

Andre Ayew Image copyright Getty Images
Image caption Mewn cyfweliad diweddar, dywedodd Ayew ei fod o'n gefnogwr Lerpwl

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cwblhau trosglwyddiad yr ymosodwr o Ghana, Andre Ayew, ar ôl dod i gytundeb ynglŷn â thelerau personol.

Pasiodd Ayew ei brawf meddygol gyda'r clwb, ac fe wnaeth Abertawe gyhoeddi eu bod wedi cwblhau'r trosglwyddiad brynhawn Mercher.

Mi fydd Ayew, sy'n 25 mlwydd oed, yn ymuno gyda'r Elyrch am ddim gan fod ei gytundeb gyda Marseille wedi dod i ben.

Sgoriodd yr ymosodwr 52 gôl mewn 181 ymddangosiad i'r clwb o Ffrainc. Mae o hefyd wedi ennill 62 cap i Ghana, gan sgorio 11 gôl.

Mae arwyddo ymosodwr wedi bod yn flaenoriaeth i Abertawe ers iddyn nhw werthu Wilfried Bony i Manchester City am £28m ym mis Ionawr.