Dŵr Cymru yn gwneud elw o £77m

  • Cyhoeddwyd
tapFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae Dŵr Cymru wedi dweud y bydd elw o £77m ar gyfer 2014-15 yn help tuag at fuddsoddiad gwerth £1.7bn yn eu rhwydwaith dros y pum mlynedd nesaf.

Mae ffigurau gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod yr elw sylfaenol i fyny o £50m y flwyddyn flaenorol.

Daw'r cyhoeddiad wythnosau'n unig ar ôl i gynlluniau i dorri 360 o swyddi dros bum mlynedd gael eu cyhoeddi fel rhan o arbedion.

Dywedodd y cwmni eu bod yn bwriadu buddsoddi bron i £1m y dydd mewn gwasanaethau - a hynny heb gyflwyno codiadau mewn biliau cwsmeriaid.

'Ail-fuddsoddi'r elw'

Mae prif weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones, wedi dweud wrth BBC Cymru bod y canlyniadau yn adlewyrchu "perfformiad da iawn" y cwmni.

Dywedodd: "Gan nad oes gan y cwmni fodel busnes o wneud elw ar gyfer cyfranddalwyr, fe fydd yr elw cyfan yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau.

Mae blaenoriaethau'r cwmni yn cynnwys gwella gwasanaethau cwsmeriaid trwy fuddsoddi yn y rhwydwaith bibell ddŵr, gan edrych ar sut i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a sut y gall systemau draenio ymdopi yn y dyfodol.

Mae'r cwmni eisoes wedi buddsoddi £15m yng nghynlluniau draenio RainScape mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin ac Abertawe, ac maen nhw wedi neilltuo £60m ar gyfer cynlluniau tebyg.

Dywedodd Mr Jones bod y cyhoeddiad am golli swyddi fis diwethaf yn adlewyrchu'r angen i gadw'r buddsoddiad mewn gwasanaethau dŵr, wrth gadw biliau cwsmeriaid i lawr.

Dywedodd wrth BBC Cymru y byddai'r diswyddiadau yn rhan o raglen wirfoddol fel rhan o dargedau effeithlonrwydd a osodwyd gan y corff sy'n gwarchod y diwydiant, Ofwat.