Y Frenhines yn ymweld â Chaerdydd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd y Frenhines yn cyflwyno lliwiau newydd i Gatrawd y Cymry Brenhinol wrth iddi ymweld â Chaerdydd ddydd Iau.
Fe fydd 600 o filwyr yn gwneud y daith o'r castell i'r stadiwm fel rhan o'r dathliadau.
Bydd y Frenhines yn cyfarfod rhai o'r milwyr a'u teuluoedd wedi'r orymdaith.
"Lliwiau" milwyr yw'r fflagiau sy'n cael eu cario i frwydrau'r gatrawd.
Dywedodd Cyrnol y Catrawd, y Brigadydd Phillip Napier: "Fe fydd pob milwr sy'n rhan o'r digwyddiad yn deall hanes y Catrawd a beth mae'n golygu i fod yn Gymro Brenhinol."
Bydd nifer o ffyrdd ar gau yng nghanol Caerdydd ddydd Iau wrth i'r Frenhines ymweld â Stadiwm y Mileniwm.
Mae aelod cabinet Cyngor Caerdydd am drafnidiaeth Ramesh Patel wedi gofyn i bobol i gynllunio eu taith o flaen llaw oherwydd cau'r ffyrdd.
I gael mwy o wybodaeth am y ffyrdd fydd ar gau ddydd Iau, cliciwch yma.