Marwolaeth triathlon y Bala: Cyhoeddi enw
- Cyhoeddwyd

Roedd Daniel Cavanagh ar gymal beicio'r treiathlon pan gafodd ei daro'n wael
Mae dyn fu farw wrth gymryd rhan mewn triathlon yn y Bala wedi cael ei enwi.
Roedd Daniel Cavanagh, 40 oed, o Benbedw, Cilgwri, ar gymal beicio Treiathlon Pellter Canol y Bala ddydd Sul pan gafodd ei daro'n wael.
Mae'r crwner wedi dechrau ymchwiliad i'w farwolaeth.
Fe gafodd y ras - oedd yn cynnwys nofio 2,000 metr, beicio 78.5 cilometr a rhedeg 20 cilometr - ei chanslo yn dilyn marwolaeth Mr Cavanagh.
Straeon perthnasol
- 7 Mehefin 2015