Llofruddiaeth bwa croes: 'Casglu arian cyffuriau'
- Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi clywed bod dyn, gafodd ei lofruddio, wedi bod yn casglu arian cyffuriau pan gafodd ei saethu gyda bwa croes cyn disgyn o falconi trydydd llawr.
Dywedodd Lee Solari, 26 oed, ei fod wedi anfon ei ffrind Sion Davies, 25 oed, i fflat yn stad Parc Caia yn Wrecsam fis Hydref y llynedd i gasglu'r arian.
Ond clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod Mr Solari yn bryderus pan fethodd Mr Davies ag ateb ei ffôn.
Mae Anthony 'Charlie' Munkley, 33 oed, a Lee Roberts, 33 oed, yn gwadu llofruddiaeth.
'Canabis'
"Roedden ni yn arfer cael canabis gan Charlie ond roedden ni hefyd yn gwerthu canabis iddo," meddai Mr Solari.
Ar ôl gadael ei ffrind yn fflat Mr Munkley roedd Mr Solari yn bryderus pan fethodd â dychwelyd.
Dywedodd Mr Solari ei fod wedi derbyn galwad ffôn yn oriau cynnar y bore wedyn yn dweud bod ei ffrind wedi cael ei ddarganfod yn farw.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2015