Cystadleuwyr BBC Canwr y Byd yn cyrraedd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Celine Forrest a Blaise Malaba
Disgrifiad o’r llun,
Celine Forrest a Blaise Malaba o'r Congo yn ymweld ag ysgol yng Nghaerdydd

Mae 20 o gantorion sy'n gobeithio cipio teitl cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd wedi cyrraedd y brifddinas cyn i'r cystadlu ddechrau ddydd Sul.

Bydd y soprano Celine Forrest o Abertawe yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth, sy'n cael ei chynnal pob dwy flynedd yn Neuadd Dewi Sant ac yn cael ei darlledu ar deledu a radio'r BBC.

Mae cantorion o'r UDA, De Korea a Belarus ymysg y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Bydd y cystadlu'n dechrau ddydd Sul.

Dyma fydd y tro cyntaf i gystadleuwyr o Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Malta a Mongolia i ymddangos.

Bydd enillydd y brif wobr yn derbyn cwpan, ynghyd â gwobr o £15,000, ac yn cael cyfle i ganu darn newydd gan y cyfansoddwr John Lunn yn y BBC Proms 2016.

Fe gafodd y gystadleuaeth ei sefydlu yn 1983, gyda'r bwriad o ddod o hyd i gantorion clasurol talentog y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,
Yr 20 canwr fydd yn cystadlu yng Nghaerdydd

Derbyniad arbennig

Fe gafodd y brif wobr yn 2013 ei hennill gan Jamie Barton o'r UDA, ac mae ei dyddiadur bellach yn llawn ar gyfer perfformiadau.

Bydd enillydd Gwobr y Gân, i ganwr gorau'r Lieder a'r gân gelf, yn cael gwobr o £5,000 a thlws. Bydd Gwobr Cynulleidfa y Fonesig Joan Sutherland yn cael ei gwobrwyo yn dilyn dyfarniad y cyhoedd.

Fe fydd yr 20 cystadleuydd yn cael eu croesawu i Gymru mewn derbyniad arbennig yn y Senedd nos Wener.

"Roedd yn fater o bwy yr oeddem wedi ei glywed a phwy oedd y cantorion gorau i gynnig eu hunain", meddai cyfarwyddwr artistig y gystadleuaeth David Jackson am y dewis o'r 20 i gyrraedd y rownd derfynol.

"Mae'r mwyafrif yn cyrraedd Caerdydd am y tro cyntaf, ac maen nhw wedi cyffroi ac yn naturiol yn nerfus.

"Mae'n gyfle unigryw o ran y sylw y byddan nhw'n ei gael a'r gynulleidfa fydd yn gwrando yn y neuadd ac adref.

"Maen nhw'n cael taith Rolls-Royce i gerddorfeydd a phianyddion o safon ryngwladol, ac ennill neu beidio, mae'n dal yn brofiad gwych iddyn nhw yn eu gyrfaoedd."

Fe fydd yr holl gystadlu i'w gweld a'i chlywed ar wasanaethau teledu a radio y BBC o 14 Mehefin hyd at y gyngerdd derfynol ar nos Sul 21 Mehefin.