Y Frenhines yn cwrdd â Maisie Gregory
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Milwr yn taro merch fach wrth iddi gwrdd â'r Frenhines

11 Mehefin 2015 Diweddarwyd 17:44 BST

Roedd un ferch fach wedi bod yn edrych ymlaen at gwrdd â'r Frenhines yng Nghaerdydd ddydd Iau, ond fe gafodd hi dipyn o sioc eiliadau ar ôl ei moment fawr.

Wrth i'r Frenhines adael yr adeilad ar ôl derbyn blodau gan Maisie, 6 oed, fe gafodd hi ei tharo wrth i'r milwr oedd yn sefyll gyda hi saliwtio'r Frenhines.

Dywedodd tad Maisie, yr Uwch Sarjant Martin Gregory, ei bod hi wedi ypsetio ar y pryd, ond ar ôl cael gwisgo het ei thad roedd hi'n "hapus ac yn rhedeg o gwmpas".

"Mae hi'n iawn hefo'r peth. Mae hi'n gweld yr ochr ddoniol."