Trywanu dynes: Parhau i chwilio am ddyn yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am ddyn ar y trydydd diwrnod ar ôl i ddynes gael ei thrywanu yng Nghaerdydd fore Gwener.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn ymchwilio i ymosodiad a'u bod yn chwilio am ddyn 47 oed, Arnel Martinez Raymondo o'r Rhath yn y ddinas.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd dros dro, Jim Hall: "Rydym yn awyddus iawn i siarad â Mr Raymondo, rydym yn gofyn iddo gysylltu â ni yw fel mater o frys."
Ychwanegodd nad oedd perygl i'r cyhoedd, a gofynnodd i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar unwaith ar 999.
Ynysig
Roedd y digwyddiad yn un domestig ac yn ynysig, meddai'r heddlu.
Bu rhan o Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau am gyfnod tra oedd y plismyn a hofrennydd yn chwilio'r ardal.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 10:30 ac mae'r ddynes yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.