Ysgol newydd £5.1m i Fangor

  • Cyhoeddwyd
Ysgol GlanceginFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith adeiladu ar y cyd

Bydd ysgol newydd £5.1m yn cael ei hadeiladu ym Mangor yn dilyn sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun.

Fe fydd Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o adeiladu Ysgol Glancegin ar y cyd.

Dros y misoedd nesaf fe fydd cynlluniau ar gyfer yr ysgol, fydd yn gwasanaethu dalgylch Maesgeirchen o'r ddinas, yn cael eu datblygu.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yng ngwanwyn 2016, a'r gobaith yw y bydd yr ysgol newydd yn cael ei hagor yn swyddogol ym mis Medi 2017.