Honiad newydd o gamdrin yn erbyn y cyn AS George Thomas
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n ymchwilio i honiad newydd fod y diweddar Arglwydd Tonypandy, George Thomas, wedi ymosod yn rhywiol ar lanc yn ei arddegau ar drên rhwng de Cymru a Llundain yng nghanol y Chwedegau.
Dyma'r ail gŵyn a wnaed yn erbyn y cyn AS dros Gaerdydd a aned ym Mhort Talbot, a fu farw yn 1997.
Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) eu bod wedi derbyn honiad o "gyffwrdd amhriodol".
Dywedodd llefarydd: "Mae'r BTP yn ymwybodol o honiad o gyffwrdd amhriodol yn cynnwys y diweddar George Thomas ar fwrdd trên o Lundain i Aberystwyth yn 1959.
"Gallaf gadarnhau bod ail adroddiad wedi dod i law gan Heddlu Gwent, sy'n ymwneud â honiadau o ymosodiad rhywiol yn ystod taith trên o Gasnewydd i Paddington rhwng 1964 a 1966.
"Nid yw'r achwynydd, a oedd yn 16 neu 17 oed ar y pryd, yn dymuno gwneud datganiad ffurfiol i'r heddlu.
"Mae'r wybodaeth wedi cael ei basio i'r tîm ymchwilio - Operation Hydrant."
Mae timau Operation Hydrant yn casglu tystiolaeth ar gyfer nifer o ymchwiliadau i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol, maent yn cynnwys Ymgyrch Pallial yng ngogledd Cymru ac Operation Yewtree - sef yr ymchwiliad a ysgogwyd gan yr achosion o gamdriniaeth gan Jimmy Savile.