Felothon: Gosod taciau ar y ffordd
- Cyhoeddwyd

Bu'n rhaid i feicwyr oedd yn cystadlu mewn ras yn ne Cymru gario eu beiciau am gyfnod, gan fod protestwyr wedi gwasgaru taciau ar y ffordd mewn rhai ardaloedd.
Roedd hyd at 15,000 o feicwyr wedi cystadlu yn Felothon Cymru ddydd Sul, oedd yn arwain y beicwyr drwy ardaloedd Caerdydd, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Chaerffili.
Roedd pobl wedi beirniadu'r penderfyniad i gau nifer o ffyrdd ar gyfer y ras, gyda rhai busnesau yn dweud eu bod yn debygol o golli miloedd o bunnoedd mewn masnach oherwydd hynny.
Dywedodd trefnwyr y Felothon fod 'yr ardaloedd wedi cael eu clirio yn gyflym" ac nad oedd unrhyw broblemau traffig mawr wedi codi.
Martin Mortensen, yn wreiddiol o Ddenmarc, enillodd y ras broffesiynol, gan gwblhau'r cwrs 174 cilometr mewn 4 awr, 26 munud a 25 eiliad.
'Dim damweiniau nac anafiadau'
Yn ôl Andy Taylor: "Gallwn gadarnhau bod ychydig bach o daciau wedi eu darganfod am tua 09:30 ar rannau ynysig o'r llwybr ar Ffordd Belmont yng Nghaerllion, a hefyd am 10:02 ar yr Heol Newydd yng Nghaerffili.
"Yn ffodus, nid oes unrhyw ddamweiniau nac anafiadau, ac fe gafodd yr ardaloedd yr effeithir arnynt eu clirio o fewn ychydig funudau."
Yn gynharach, fe gafodd modurwyr eu rhybuddio y gallent wynebu aflonyddwch, wrth i ffyrdd gael eu cau ar gyfer y ras.
Roedd rhai busnesau wedi beirniadu'r penderfyniad i gau'r ffyrdd, gan honni y gallent golli miloedd o bunnoedd mewn masnach.
Dywedodd trefnwyr y ras fod y ffyrdd sy'n cael eu cau, yn cael eu hailagor yn syth wedi'r seiclwyr basio, er mwyn lleihau'r effaith ar fusnesau a phobl leol.
'Yn dda i fusnes'
Roedd y beicwyr amatur yn dewis seiclo ar un o ddau lwybr posib, unai'r un 140km (87 milltir) neu'r un 50km (31 milltir), tra fod y seiclwyr proffesiynol yn mynd i'r afael â llwybr 194km (120 milltir) sydd yn eu harwain drwy Gaerffili, Mynydd y Tymbl a'r Fenni.
Ddydd Iau, fe gyfaddefodd trefnwyr y Felothon fod dryswch wedi bod ynghylch pwy gynhaliodd yr ymgynghoriad ar lwybrau'r ras, wedi i'r AS dros Sir Fynwy, David Davies eu cyhuddo o ddweud celwydd.
Er bod rhai wedi beirniadu'r broses o gynllunio'r digwyddiad, mae eraill wedi dweud bydd yr ardal yn elwa o'r digwyddiad, yn enwedig Caerdydd, lle mae'r ras yn dechrau ac yn gorffen.
Dywedodd Mari Williams, o grŵp beicio Caerdydd: "Mae'n wych gweld seiclo yn cael gymaint o sylw yng Nghaerdydd. Rydym am i Gaerdydd fod y ddinas seiclo orau yn y DU.