Cymdeithas yr Iaith: Meddiannu Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
protest
Disgrifiad o’r llun,
Mae 12 o fyfyrwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi meddiannu un o goridorau Neuadd Pantycelyn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ail-bwysleisio'r angen am waith atgyweirio i Neuadd Gymraeg Pantycelyn, a'r ymroddiad i ddarparu llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, wedi i 12 o unigolion feddiannu rhan o'r neuadd.

Mae myfyrwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod gadael yr adeilad ar ddiwedd tymor yr haf, fel protest yn erbyn cynlluniau i'w gau.

Dywedodd Gwilym Tudur, Cadeirydd Cell Pantycelyn o Gymdeithas yr Iaith: "Heddiw, mae myfyrwyr Neuadd Pantycelyn i fod symud allan o'r neuadd, ond mae rhai wedi penderfynu aros gan nad oes sicrwydd y byddwn ni'n cael dod nôl fis Medi - na wedi hynny.

"Er i'r Brifysgol addo llynedd y byddai Pantycelyn yn aros ar agor yn ddiamod dyma nhw wedi bradychu myfyrwyr a staff y Neuadd.

Disgrifiad,

Hynek Janqusek o Cymdeithas yr Iaith

Bydd Cyngor y Brifysgol yn cwrdd ddydd Llun 22 Mehefin i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Pantycelyn.

"Rydyn ni'n galw ar bob un o aelodau'r Cyngor i beidio derbyn argymhellion y Brifysgol i gau'r neuadd ond yn hytrach i ddiogelu un o unig gymunedau naturiol Gymraeg Cymru." meddai Mr Tudur.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod yn "gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg, ac yn deall ac yn gwerthfawrogi'r angen am gymuned lle mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd."

Mae'r Brifysgol eisoes wedi cynnal trafodaethau ac ymweliadau safle gydag UMCA ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i'r llety a'r gofod cymunedol a chymdeithasol a fydd ar gael ar eu cyfer, petai Pantycelyn ddim ar gael.

Disgrifiad,

Eiri Angharad o Cymdeithas yr Iaith

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr.

"Yn y cyfamser, bydd y gwaith o gynllunio dyfodol hir dymor adeilad Pantycelyn yn parhau, a hynny mewn ymgynghoriad llawn gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr."