Diabetes Cymru: Lefelau 'mor uchel ag erioed'
- Cyhoeddwyd

Mae elusen wedi rhybuddio fod y nifer y bobl sydd yn dioddef o ddiabetes yng Nghymru wedi cyrraedd "y lefel uchaf erioed".
Dywedodd Diabetes UK Cymru fod 177,212 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr erbyn hyn.
Maent yn dweud os bydd y duedd yn parhau, yna gallai'r ffigurau godi i 288,000 erbyn 2025.
Wrth lansio Wythnos Diabetes, dywedodd yr elusen fod diffyg addysg am y cyflwr wedi arwain at gymhlethdodau iechyd "trychinebus", gan gynnwys dallineb neu strôc.
Mae diabetes yn costio bron i £500 miliwn i'r GIG yng Nghymru bob blwyddyn, medd yr elusen.
Dywedodd Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Dai Williams: "Dros y degawd diwethaf rydym wedi gweld nifer y bobl sydd â diabetes yn codi ar raddfa frawychus ac mae'r ffigurau diweddaraf yn alwad ein bod angen gweithredu ar frys - mae'n rhaid i ni weithredu nawr neu wynebu'r perygl gwirioneddol o weld diabetes yn dinistrio bywydau hyd yn oed mwy o bobl, ac yn bygwth chwalu'r GIG oherwydd y baich."