Marwolaeth beiciwr: Dyn yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Alan CroninFfynhonnell y llun, Cronin family | north wales police
Disgrifiad o’r llun,
Mae teulu Alan Cronin wedi ei ddisgrifio fel "tad, gŵr a ffrind arbennig"

Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam ar gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ar ôl i feiciwr farw ar yr A483 ger Yr Orsedd.

Cafodd Damian Niepieklo, 22 oed ac yn wreiddiol o Wlad Pwyl, ei gadw yn y ddalfa tan 26 Mehefin.

Daethpwyd o hyd i Alan Cronin, 60 oed, o Guilden Sutton, ger Caer, gydag anafiadau difrifol ger Yr Orsedd, ar ffordd yr A483, ffordd osgoi Wrecsam, ddydd Iau.

Fe gafodd Mr Niepieklo ei gadw yn y ddalfa nes i'r achos gael ei glywed yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 26 Mehefin.

Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Mr Cronin yn dilyn gwrthdrawiad ger Yr Orsedd, Wrecsam, ddydd Iau