Dyddiadur Cymraeg Derek

Barod amdani!
Image caption Barod amdani!

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i'r wyth seren sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ar gyfres eleni o Cariad@Iaith ar S4C. Mae un ohonyn nhw, y dyn tywydd Derek Brockway wedi bod yn cadw dyddiadur o'i gyfnod yn ardal Machynlleth:

Y DIWRNOD CYNTAF

Roeddwn i ychydig bach yn ansicr am beth i'w ddisgwyl pan gyrhaeddais i'r bore 'ma â bod yn onest! A dwi'n gobeithio na fydd y glaw yn arwydd o'r hyn sydd i ddod dros yr wythnos nesaf. Roeddwn i'n nerfus iawn ar ôl cyrraedd ac yn poeni a fydda' i'n dod ymlaen â phawb.

Ein her gyntaf oedd trip annisgwyl i Lyn Tegid lle bu'n rhaid i ni adeiladu rafft a chario ein tiwtor, Ioan Talfryn, i dir sych. Roeddwn i'n synnu ein bod ni heb wlychu'n fwy! Cawsom ni help gan yr hyfforddwr i gyrraedd y lan gan weiddi 'un, dau' wrth rwyfo.

Roeddwn ni'n teimlo fel tîm yn barod. Ond roedd hi'n oer iawn!

Image copyright S4C
Image caption Ydy Nia yn cael trefn ar y dosbarth anifeilaidd yma?

Roedd ein gwers gyntaf yn brofiad gwahanol iawn i ddosbarthiadau Cymraeg arferol. 'Dadawgrymeg' yw enw'r dechneg lle rydym yn cael ein trochi mewn mil o eiriau Cymraeg o'r cychwyn.

Fe chwaraeom ni gêmau oedd yn ymddangos braidd yn blentynnaidd, ond rwy'n credu bod e'n gweithio - mae'r geiriau yn treiddio, yn sicr.

Rydym ni hefyd yn defnyddio mygydau o anifeiliaid tra'n dysgu ac yn darllen straeon am anifeiliad sy'n byw mewn coedwig. Mae fel bod yn ôl yn yr ysgol gynradd ac mae'n teimlo'n od i chwarae gemau fel hyn fel oedolyn!

Image copyright S4C
Image caption Mae Derek yn mwynhau ei hun yn dysgu Cymraeg

DIWRNOD 2

Ces i fy neffro'r bore ma gan y criw ffilmio anghwrtais yn chwarae synau anifeiliaid uchel.

Daethon nhw mewn i fy 'stafell wely yn sydyn iawn felly roedd hi'n lwcus fy mod i'n gwisgo fy nillad nos! Roedd ddoe yn ddiwrnod hir iawn ac ro'n i yn fy ngwely erbyn 21:00 gyda llwyth o eiriau Cymraeg yn chwyrlïo yn fy mhen.

Ond doedd dim amser i'w wastraffu ac felly bant â ni i'n gwers gyntaf yn syth ar ôl brecwast. Dyma ni'n parhau â stori 'Helynt y goedwig' ac roedd gwylio Ioan a Nia yn perfformio yn ddoniol iawn. Mae'r ffaith fod popeth mor wallgof yn gwneud i ni ymlacio yn y dosbarth.

Ymlaen â ni wedyn i weithgaredd y diwrnod lle aeth hanner y grŵp i chwarae rygbi cyffwrdd gyda Chlwb Rygbi Machynlleth a'r hanner arall i baratoi byrgyrs a ffagots. Wrth gwrs, ro'n i yn y grwp rygbi!

Tîm Cariad@Iaith aeth â hi yn y diwedd - a fi sgoriodd y cais buddugol! Roedd hi'n ffordd wych o roi'r Gymraeg ar waith a'i defnyddio hi mewn ffordd ymarferol.

Dwi'n mwynhau'r profiad yn fawr iawn yn barod, ond mae hyn mor wahanol i fy swydd arferol - dwi'n gyfarwydd â'r camerâu ar set Wales Today yn diffodd - does dim llonydd i'w gael!

Image copyright S4C
Image caption Ioan Talfryn ydy'r tiwtor sy'n ceisio rhoi sglein ar Gymraeg Derek a'r criw

DIWRNOD 3

Ar ôl diwedd y cyfnod ffilmio ddoe, ro'n i'n dechrau amau fy hun, ond efallai mai'r blinder oedd yn siarad! Mae'n gallu bod yn anodd iawn yn bore oherwydd mae'r camerâu o dan dy drwyn peth cyntaf a does dim preifatrwydd. Ond ry'n ni'n benderfynol o ddial ar y criw camera cyn i ni adael!

Yn ystod y wers gyntaf heddiw, fe ddysgom ni am gyfarchiadau a thermau syml sydd ddim yn rhy anodd i mi.

Mae fy ngradd 'C' yn Lefel O yn 1984 wedi talu ei ffordd o'r diwedd ac mae'n ymddangos bod rhai pethau'n dal i aros yn y cof.

Hefyd, fe ddysgom ni eiriau newydd drwy berfformio a chanu, ac rwy'n gallu gweld pam mae'r dechneg yma o ddysgu yn gweithio.

Os ydych chi'n gwneud rhywbeth ymarferol a dysgu geiriau ar yr un pryd, ry'ch chi'n rhoi iaith ar waith yn hytrach na dim ond ysgrifennu geiriau i lawr ar bapur, felly mae'r 'bedydd tân' yn gweithio i fi.

Image copyright S4C
Image caption Ydy ffrind newydd Derek yn gallu siarad Cymraeg?

Tasg anarferol iawn oedd gyda ni heddiw - hebogaeth! Dydw i erioed wedi gwneud dim byd fel hyn o'r blaen ac felly ro'n i'n eitha nerfus o gwmpas yr adar a'u crafangau ond doedd dim byd i'w ofni. Dwi'n credu roedd Steve yn ofni'r adar ond daeth dros ei ofn heddiw.

Heb unrhyw amser i'w wastraffu, yn ôl i'r ystafell ddosbarth â ni i ddysgu mwy am y gwahaniaeth rhwng 'ti' a 'chi' a llwyth o ferfau newydd. Dwi eisoes yn gyfarwydd â'r wyddor Gymraeg ond mae eraill yn ei chael hi'n anodd i ynganu ein llythrennau arbennig.

DIWRNOD 4

Y bore ma, cawsom ein deffro eto gan y criw yn swnio corn beic ond roeddwn ni'n benderfynol o fod un cam ar y blaen! Daeth Caroline i fy ngwely a dechreuom ni ganu 'Bore da! Bore da!' o dan y blanced.

Yna, fe dorrom ni i mewn i ystafell Nia Parry i ddymuno 'bore da' iddi hi hefyd! Roedd hi yn y gawod a chafodd hi dipyn o syrpreis i'n gweld ni. Ond roedd Tom o dan ei gwely yn barod ac fe sgrechiodd hi ar ôl ein gweld ni! Bore da Nia!

Mae fy iaith lafar yn gwella'n sylweddol erbyn hyn ac mae'r dechneg addysgu wir yn cael effaith. Mae hen eiriau yn llifo'n ôl ac yn dod i'r wyneb, ac mae'r trochi yn yr iaith fel bod yn blentyn 5 oed yn mynd i'r ysgol unwaith eto.

Fy her i heddiw oedd adeiladu popty clai - gwahanol iawn i'r hyn ry'n ni wedi gwneud hyd yma ond yn eitha' ymlaciol oherwydd roedd rhaid i ni ganolbwyntio a defnyddio ein dwylo.

Image caption Mae 'na ddigon o amser yn ystod Cariad@Iaith am gân neu ddwy... ar ôl tri!

Dysgais eiriau newydd fel 'clai', 'gwellt' a 'tywod'. Roedd golwg eitha blin ar ein popty pizza erbyn y diwedd ac roedd amser yn drech arnom ni. Buddugoliaeth i Rebecca a Nicola y tro hwn. Ond o leiaf wnaeth ein popty ni aros mewn un darn.

Ond, roedd rhaid i ni olchi a thylino traed yr enillwyr ar ôl i ni golli! Ro'n i'n meddwl fy mod i yma i wella fy Nghymraeg!

DIWRNOD 5

Ro'n i'n gallu teimlo'r geiriau newydd yn llifo drosof i y bore' ma. Maen nhw'n dod at ei gilydd ac yn ffurfio brawddegau yn fy mhen.

Ein her heddiw oedd defnyddio'r Gymraeg ar lawr gwlad, felly aethom ni i farchnad Machynlleth i geisio denu cwsmeriaid i'n stondin lysiau.

Roedd hi'n gyfle gwych i siarad Cymraeg â phobl leol. Roedd nifer o bobl wedi sylweddoli pwy oeddwn i ac yn fwy na pharod i brynu moron a thatws newydd wrthof fi! Cafodd Jamie lawer o hwyl hefyd yn gweiddi 'MORON' nerth ei ben.

Image caption Fyddech chi yn prynnu moron gan y ddau yma?

Wrth gwrs, ni enillodd y dasg hon, ac ein gwobr oedd cael brecwast yn ein gwlau y bore trannoeth i'w weini gan Nicola a Rebecca. Edrych ymlaen!

Yn yr ail wers, aethom ati i ddysgu misoedd y flwyddyn. Dwi'n gwybod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n barod ond mae pawb yn teimlo ein bod wedi gwella erbyn hyn ac yn fwy hyderus.

Mae'n gallu bod yn anodd oherwydd rydych chi mewn lle cyfyng gyda saith o bobl eraill sydd â phersonoliaethau mawr.

Uchafbwynt arall o'r wers oedd gorfod siarad â thegan gwiwer - roedd hyn yn neis oherwydd doedd e ddim yn siarad nôl.

Ac os nad oedd hynny'n ddigon, yna fe ysgrifenom ni limrigau gyda chymorth y bardd Eurig Salisbury!

DIWRNOD 6

O'r diwedd, amser ychwanegol yn y gwely. Wel, rhyw ddeng munud o leiaf. A pha ffordd well o ddechrau'r diwrnod na brecwast yn y gwely wedi ei weini gan Nicola Rebecca? Yn anffodus, brecwast cyfandirol ges i ac nid brecwast Cymreig llawn.

Dim ond dau ddiwrnod sydd ar ôl ac erbyn hyn dwi'n teimlo lawer yn fwy cartrefol ac mae'r darnau yn disgyn i'w lle.

Mae'r Gymraeg wir yn sticio ac mae'n drueni nad ydym ni yma am fwy o amser. Mae'n teimlo fel dechrau rhywbeth mawr ac rwy'n benderfynol o ddysgu mwy a mwy o Gymraeg.

Dwi'n dysgu orau mewn grwp ac rwy'n berson pobl ac yn dwlu ar gwmni pobl eraill. Mae dysgu gyda'n gilydd yn fwy o sbri ond dwi'n hoffi digon o lonydd pan mae'n dod at wneud gwaith cartref.

Image caption "Beth yw'r gair Cymraeg am pizza?"

Heddiw, roedd rhaid i mi wisgo ffedog a gweini bwyd yng nghaffi Alys ym Machynlleth.

Fe gymerais i archebion bwyd gan y cwsmeriaid a ches i ddim problem yn cofio beth roedden nhw eisiau a'r geiriau Cymraeg am bopeth. Ces i lawer o sbri yn siarad â'r cwsmeriaid ac roedd Steve yn ddoniol iawn fel arfer.

Yn ôl at y gwersi, a dwi wrth fy modd yn cael fy nysgu gan Nia ac Ioan. Maen nhw mor angerddol dros yr iaith ac mor bositif ac ysbrydoledig. Mae popeth yn rhyngweithiol ac yn hwyl a dwi eisiau dysgu mwy a mwy.

Mae hyn wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn ac rwy'n genfigenus o gystadleuwyr y flwyddyn nesaf yn barod.

Y DIWRNOD OLAF

Mae'n anodd credu bod popeth bron â dod i ben. Cawsom ni wers wych y bore 'ma wrth i Nia ddysgu i ni ystyr geiriau'r anthem genedlaethol a 'Calon Lân'.

A pharhau wnaeth y canu wrth i ni gyd ddal y bws mini i Dywyn er mwyn recordio cân arbennig iawn mewn stiwdio recordio.

Cafodd y gân ei hysgrifennu yn arbennig ar ein cyfer ni ar dôn 'Ar hyd y nos'.

Roedd gan bawb un llinell i'w chanu oedd yn disgrifio ein hamser ar y rhaglen ac roedd yn llawer o hwyl.

Roedd hi bron iawn yn teimlo fel ein bod yn rhan o Band Aid neu rywbeth, ond bydd rhaid i chi wylio'r rhaglen i'n gwylio ni'n canu!

Bydd hi'n drist iawn i weld pawb yn mynd, ond mae Steve wedi gwneud i ni chwerthin cymaint yn yr ystafell ddosbarth a chadw pawb i wenu pan oedd y gwersi'n drech na ni.

Mae'r Gymraeg yn iaith wych a phrydferth ac mae'n bwysig ein bod ni'n ei chefnogi hi gymaint ag sy'n bosibl ac annog pobl i'w siarad a'i dysgu.

Mae yna gynifer o gyrsiau a dosbarthiadau i oedolion gydag apiau a'r we, does dim esgus erbyn hyn!

Hoffwn i fod yn rhugl rhyw ddiwrnod ond mae angen mwy o hyder ac amser i mi ddefnyddio'r iaith yn gyntaf.

Dwi'n benderfynol o ddysgu mwy pan af i nôl i Gaerdydd.

Image copyright S4C
Image caption Mae'r sêr wedi cael amser wrth eu boddau yn dysgu'r Gymraeg

I weld pwy enillodd, gwyliwch Cariad@Iaith ar S4C Clic ac ar yr iplayer