FUW: Llywydd yn rhoi'r gorau iddi
- Cyhoeddwyd

Mae Emyr Jones wedi rhoi'r gorau i'w rôl fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, wedi 15 mlynedd o wasanaeth i'r mudiad ar lefel genedlaethol.
Fe ddatgelodd Mr Jones ei benderfyniad yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol yr undeb yn Aberystwyth ddydd Llun.
Ef oedd cadeirydd sir Feirionnydd rhwng 1998 a 2000, cyn cael ei ethol i gynrychioli gogledd Cymru ar bwyllgor canolog arian a threfnu y mudiad.
Fe gafodd ei ethol yn is-lywydd yn 2002, yn ddirprwy lywydd yn 2003, a bu'n llywydd ers 2011.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, fe ddywedodd: "Wedi'r ad-drefnu sylweddol yn ystod y flwyddyn a fu... dw i'n credu ein bod ni'n fudiad all edrych ymlaen gyda hyder i wasanaethu'r diwydiant amaeth yng Nghymru am 60 mlynedd arall.
"Felly, wedi eich arwain am y pedair mlynedd ddiwethaf, ac fel dirprwy lywydd am wyth mlynedd cyn hynny, dw i'n meddwl ei bod hi'n amser i mi symud i'r sedd gefn a galluogi i'r undeb gael ei arwain gan wyneb newydd all ymdopi â'r heriau sy'n parhau i wynebu'r diwydiant."
Fe ddiolchodd Mr Jones i staff ac aelodau'r undeb, a dweud y byddai gan y llywydd nesaf ei "gefnogaeth yn llawn".