Marwolaeth Argoed: Cyngor yn rhoi cymuned 'mewn perygl'

  • Cyhoeddwyd
Cerys Yemm
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Cerys Yemm wedi'r ymosodiad yn y Sirhowy Arms ym mis Tachwedd y llynedd

Mae perchennog gwesty gwely a brecwast lle cafodd merch 22 oed ei lladd gan ddyn digartref oedd newydd adael carchar wedi dweud bod y cyngor wedi rhoi hi a'r gymuned mewn perygl oherwydd y bobl gafodd eu cartrefu yn y gwesty.

Bu farw Cerys Yemm yn y gwesty yn Argoed wedi ymosodiad gan Matthew Williams, 34, fu farw ei hun ar ôl i'r heddlu ei saethu gyda gwn taser.

Mae perchennog y gwesty wedi dweud wrth raglen Week In Week Out bod troseddwyr rhyw a dau ddyn aeth ymlaen i lofruddio pobl wedi aros yn y gwesty.

Dywedodd Cyngor Caerffili eu bod yn ystyried asesiadau risg cyn gyrru cyn-droseddwyr i lety dros dro.

Yn ogystal â siarad gyda mam Cerys Yemm am y tro cyntaf, mae'r rhaglen wedi darganfod bod rhai cynghorau yn gyrru pobl digartref i westai Premier Inn a Travelodge mewn achosion brys.

'Gwybod dim'

Ar y rhaglen, mae Paula Yemm, sy'n weithiwr cymdeithasol, yn dweud nad oes ganddi unrhyw syniad pam bod ei merch wedi bod yn y gwesty ar y noson y cafodd ei lladd gan Williams, na pham yr oedd o yno.

Mae teulu Williams wedi dweud yn y gorffennol bod ganddo broblemau iechyd meddwl difrifol a'i fod wedi ei ryddhau o'r carchar yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Matthew Williams ar ôl i'r heddlu ddefnyddio gwn taser arno yn y gwesty

Dywedodd Mrs Yemm: "Dydw i'n gwybod dim - dim o gwbl. Dydw i ddim yn gwybod lle oedd hi, pwy oedd hi hefo ac er fy mod yn gwybod pa mor anodd fyddai gwybod hynny, 'dwi angen gwybod.

"Mae 'na bethau 'dwi angen gwybod: pwy wnaeth y penderfyniad i'w roi o yna a pha asesiadau risg gafodd eu cwblhau, os o gwbl, a beth aeth o'i le?"

Llety dros dro

Cafodd Cerys, oedd yn byw yn Oakdale, ei darganfod yn farw yn llofft Matthew Williams yn y gwesty - roedd hi wedi dioddef anafiadau difrifol i'w hwyneb a'i gwddf.

Ar y rhaglen, dywedodd Mandy Miles, perchennog y Sirhowy Arms ger y Coed Duon, bod ei hymchwil hi yn dangos bod Cyngor Sir Caerffili wedi gyrru nifer o gyn-droseddwyr difrifol gan gynnwys troseddwyr rhyw i'r gwesty heb rybudd iddi hi na'r gymuned ehangach am beryglon posib.

Am chwe blynedd cafodd y gwesty ei ddefnyddio gan y cyngor fel llety dros dro i bobl digartref a phobl yn eu harddegau oedd yn agored i niwed - gan gynnwys rhai oedd yn gadael y system ofal.

Roedd nifer o'r oedolion wedi bod i'r carchar, ac roedd eraill yn cynnwys pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol. Dywedodd Ms Miles ei bod yn hapus i'w derbyn.

Ond wedi'r marwolaethau ym mis Tachwedd y llynedd, fe wnaeth pobl leol ddefnyddio'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i gael manylion gan y cyngor am y math o gyn-droseddwyr gafodd eu rhoi yno. Fe wnaeth Cyngor Caerffili gyfaddef bod 10 o bobl digartref oedd wedi cyflawni troseddau rhyw neu dreisgar wedi mynd yno.

Mae Ms Miles yn honni nad oedd hi'n gwybod hyn o flaen llaw, a bod ei hymchwil yn dangos bod treisiwr a phedoffiliaid wedi aros yn y gwesty.

Dywedodd wrth y rhaglen: "Doeddwn i ddim yn agor y drws ac roedd dyn yna yn dweud 'Helo Mandy, mae'r cyngor wedi fy ngyrru, dwi'n droseddwr rhyw'. Doedd hynny ddim yn digwydd.

"Roedd rhaid i fi edrych ar Google i weld beth oedden nhw wedi ei wneud. Fe wnaeth hynny fi'n flin."

Mae Ms Miles hefyd yn dweud bod person 17 oed oedd yn dod o'r system ofal wedi eu rhoi yn y gwesty ar yr un adeg a phedoffeil.

755 o bobl

Mae'r rhaglen wedi darganfod bod cynghorau Cymru wedi gyrru 755 o bobl i aros mewn gwestai pan nad oedd unman arall iddyn nhw fynd dros y pum mlynedd diwethaf.

Yn Lloegr, nid yw cynghorau yn gyrru pobl sy'n 16 ac 17 i westai oherwydd eu bod yn amhriodol. Ond yng Nghymru mae cynghorau yn cael rhoi pobl ifanc yno am chwe wythnos wrth iddyn nhw edrych am lety arall.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Yn sgil y digwyddiad, mae grwp Voices from Care wedi galw am arolwg brys o'r ffordd deliodd y cyngor gyda'r achos, ac i pam bod gymaint o bobl ifanc yn cael eu gyrru i westai gwely a brecwast yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weithredwr Voices from Care, Debbie Jones: "Fel rhiant corfforaethol mae cyfrifoldeb fel rhiant i blentyn yn eich gofal.

"Mae angen adolygiad ar unwaith i'w arferion, felly unwaith eto rydyn ni'n galw am adolygiad cenedlaethol i mewn i - yn enwedig Caerffili - ond rydw i'n amau bod hyn yn broblem ehangach nag un awdurdod lleol."

Galw am ymchwiliad

Nid oedd Cyngor Caerffili am gael eu cyfweld fel rhan o'r rhaglen, ond fe ddywedon nhw eu bod yn ystyried asesiadau risg gan yr heddlu a'r gwasanaeth prawf cyn gyrru cyn-droseddwyr i aros mewn llety dros dro.

Dywedon nhw eu bod yn rhoi gwybod i Mandy Miles os oedd cyn-droseddwyr yn dod i'w gwesty, ond heb roi manylion am y troseddau.

Fe wnaeth y cyngor wrthod datgelu os oedden nhw'n rhoi gwybod i westai Premier Inn a Travelodge os yn gyrru pobl digartref yno dros dro.

Mae'r ddau gwmni wedi cadarnhau eu bod yn derbyn pobl gan gynghorau ar draws y DU. Dywedodd Premier Inn eu bod yn disgwyl i awdurdodau lleol asesu unrhyw un cyn eu gyrru, a dywedodd Travelodge bod rhaid i bawb gadw at eu rheolau.

Mae'r AC Ceidwadol dros dde ddwyrain Cymru, William Graham hefyd wedi bod yn gofyn cwestiynau am y Sirhowy Arms ers y digwyddiad.

Dywedodd y dylai'r cyngor fod wedi rhoi mwy o wybodaeth i Mandy Miles, ac mae'n galw am ymchwiliad i'r achos.

"Mae'r achos yma yn amlygu methiannau yn yr achos ac mae'n bosib bod angen adolygiad achos difrifol i ddarganfod beth yw'r methiannau ac edrych ar yr unigolion - a wnaethon nhw ddilyn eu dyletswyddau, ac os ddim yna yn amlwg mae angen disgyblu."

Mae disgwyl i gwestau Cerys Yemm a Matthew Williams gael eu cynnal yn yr hydref. Mae mam Cerys yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd hynny yn rhoi'r atebion ynghylch marwolaeth ei merch yn y gwesty.

Bydd Week In Week Out ar BBC1 am 22:35.